Cywydd
Y cywydd oedd un o fesurau mwyaf poblogaidd y beirdd ar ddiwedd yr Oesoedd Canol, cymaint felly fel y cyfeirir at Feirdd yr Uchelwyr fel "Y Cywyddwyr" yn draddodiadol. Mae'r cywydd yn aros yn un o'r mesurau Cerdd Dafod mwyaf poblogaidd heddiw.
Yn ei hanfod, cwpled o ddwy linell saith sillaf yr un yw'r cywydd. Addurnir y cwpledi â'r gynghanedd.
Daw'r cywydd i'r golwg yng ngwaith y beirdd yn hanner cyntaf y 14g. Does dim enghraifft o'r mesur yng ngwaith Beirdd y Tywysogion, ond ni ellir profi na dadbrofi nad oedd yn bodoli ar ryw ffurf fel un o fesurau'r Glêr (beirdd isradd) cyn y 14g. Mae Thomas Parry yn damcaniaethu y cafodd un o fesurau poblogaidd y Glêr a adweinir fel y traethodl ei gywreinio a'i ddatblygu i ffurfio'r cywydd ar ddechrau'r 14g.
Yng Ngramadeg Einion Offeiriad (tua 1330?) dywedir fod pedwar math o gywydd:
- Awdl-Gywydd, hen fesur
- Cywydd Deuair Hirion, y ffurf sy'n fwyaf adnabyddus o lawer heddiw; hoff fesur Beirdd yr Uchelwyr
- Cywydd deuair fyrion
- Cywydd llosgyrnog
Ymhlith meistri mawr y cywydd yn yr Oesoedd Canol gellid crybwyll Dafydd ap Gwilym a Llywelyn Goch ap Meurig Hen, dau o'r arloeswyr cynnar, a Gruffudd Gryg a Iolo Goch; Guto'r Glyn, Dafydd Nanmor a Lewys Glyn Cothi yn y ganrif olynol; a Tudur Aled, Lewys Môn a Wiliam Llŷn yn yr 16g.
Cafwyd adfywiad ar y cywydd yn y 18g, diolch yn bennaf i waith beirdd fel Goronwy Owen a Lewis Morris. Roedd Iolo Morgannwg yn medru cyfansoddi cywyddau campus yn ogystal, er iddo dadogi nifer ohonynt ar feirdd canoloesol fel Dafydd ap Gwilym. Er i'r cywydd golli allan i'r awdl eisteddfodol a'r canu telynegol newydd yn y 19g, adenillodd ei fri yn yr 20g ac mae'n aros yn fesur poblogaidd gan y beirdd caeth cyfoes. Mae'n un o fesurau awdl gosod y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Llyfryddiaeth
golygu- Aneirin Talfan Davies (gol.), Englynion a Chywyddau (Llyfrau'r Dryw). Ceir traethawd byr ond pwysig gan Thomas Parry ar hanes y cywydd.
- Donald Evans (gol.), Y Flodeugerdd o Gywyddau (1981)
- Iwan Llwyd a Myrddin ap Dafydd (gol.), Cywyddau Cyhoeddus (Gwasg Carreg Gwalch, 1994)