Sant Gall

cyfansoddwr a aned yn 550

Sant o Iwerddon oedd Sant Gall, Gallen, neu Gallus (c. 550 - c. 646). Roedd yn ddisgybl i Sant Columbanus, ac aeth gydag ef ar ei daith efengylu i'r cyfandir. Pan aeth Columbanus ymlaen i'r Eidal yn 612, gorfodwyd Gall gan afiechyd i aros ar ôl yn y tiriogaethau sy'n awr yn ffurfio'r Swistir. Bu'n byw fel meudwy yn y goedwig i'r de-orllewin o'r Bodensee, ger tarddle Afon Steinach. Bu farw tua 646-650 yn Arbon, a dethlir ei ŵyl ar 16 Hydref.

Sant Gall
Ganwyd550 Edit this on Wikidata
Iwerddon Edit this on Wikidata
Bu farw16 Hydref 645 Edit this on Wikidata
Arbon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethcenhadwr, llenor, cyfansoddwr Edit this on Wikidata
Swyddabbot of St. Gallen Abbey Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl16 Hydref, 16 Hydref Edit this on Wikidata

Wedi iddo farw, adeiladwyd eglwys fechan, a ddatblygodd yn Abaty Sant Gall, a roddodd ei enw i ddinas St. Gallen. Ysgrifennwyd nifer o fucheddau iddo o'r 9g ymlaen.