Mab Erlend Thorfinsson oedd Magnus Erlendson, yn hwyrach Sant Magnus (tua 1080 – tua 1118). Roedd ei dad un o Ierll yr Ynysoedd Erch hyd at 1098. Cymerwyd Magnus yn wystl gan Frenin Magnus III o Norwy ym 1098 ac aethont ar fordaith ysbeilio trwy Ynysoedd Heledd, Gogledd Iwerddon ac Ynys Manaw. Roedd yn frwydr ar Afon Menai rhwng byddin Brenin Magnus a byddin Normaniaid o dan arweiniad Hugh D'Avranches o Gaer a Hugh de Montgomery.[1] Canodd Sant Magnus salmau ar y cwch yn hytrach nag ymuno â'r frwydr.[2]

Sant Magnus
Ganwyd1075 Edit this on Wikidata
Egilsay Edit this on Wikidata
Bu farw16 Ebrill 1117 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethNorwy Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl16 Ebrill Edit this on Wikidata
TadErlend Thorfinnsson Edit this on Wikidata
MamThora Sumarlididottir Edit this on Wikidata

Daeth o'n Iarll Ynysoedd Erch, yn cydlawodraethu efo'i gefnder Hakon Paulsson rhwng 1105 a 1114. Wedyn roedd problemau rhyngddynt, a phenderfynwyd cyfarfod ar Ynys Egilsay i setlo cytundeb. Dylai'r ddau wedi cyrraedd efo dau gwch llawn dynion, ond cyrhaeddodd Hakon efo wyth ohonynt. Wedi trafodaeth, penderfynwyd dylai Lifolf, cogydd Hakon, ladd Magnus. Maddeuodd Magnus Lifolf, a chafodd ei ladd.[3]

Mae Saga Orkneyinga yn cyfeirio at wyrthiau ynglŷn â bedd Sant Magnus. Daeth Esgob William yr Hen, esgob yr ynysoedd, yn ddall ar ôl beirniadu'r holl sôn am sanctrwydd Magnus, ond gwelodd o eto ar ôl gweddïo ar bedd Magnus, felly newidodd ei feddwl. Ond mae'n bosibl hefuyd fod o wedi newid ei feddwl ar ôl ymweld â Rognvald yn Norwy. Roedd Rognvald yn awyddus i ddod yn Iarll yr ynysoedd, a llwyddodd o ar ôl iddo addo adeiladu Cadeirlan Sant Magnus yn Kirkwall.[4][5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Crynodeb Saga Orkneyinga ar wefan archive.org
  2. "Gwefan orkneyjar". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-02. Cyrchwyd 2016-02-16.
  3. "Gwefan orkneyjar". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-16. Cyrchwyd 2016-02-16.
  4. "Gwefan orkneyinga". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2016-02-16.
  5. Gwefan Cadeirlan Sant Magnus