Dramodydd o Loegr oedd Sarah Kane (3 Chwefror 1971 - 20 Chwefror 1999) adnabyddus am ei dramâu sy'n delio â themâu cariad adferadwy ("redemptive love"), chwant rhywiol, poen, artaith — corfforol a seicolegol — a marwolaeth.

Sarah Kane
Ganwyd3 Chwefror 1971 Edit this on Wikidata
Brentwood Edit this on Wikidata
Bu farw20 Chwefror 1999 Edit this on Wikidata
o crogi Edit this on Wikidata
Llundain, Ysbyty Coleg y Brenin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethdramodydd, llenor, awdur Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBlasted, Cleansed, 4.48 Psychosis Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Theatr Ewrop Edit this on Wikidata

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Blasted, Cleansed a 4.48 Psychosis.

Nodweddir ei gwaith gan ddwyster barddonol, cynildeb diorchest, yr ymwchwilio parhaus am ffurf theatraidd newydd ac, yn ei gwaith cynharach, y defnydd o weithgareddau llwyfan eithafol a threisgar. Mae Kane ei hun, yn ogystal ag ysgolheigion fel Graham Saunders, yn nodi dylanwad theatr fynegiannol a thrasiedi Jacobeaidd.[1] Mae'r beirniad llenyddol Aleks Sierz wedi gweld ei gwaith fel rhan o theatr In-Yer-Face, math o ddrama a dorrodd i ffwrdd o gonfensiynau theatr naturiaethol. Mae llyfryddiaeth Kane yn cynnwys pum drama, un ffilm fer (Skin), a dwy erthygl papur newydd ar gyfer The Guardian.[2]

Magwraeth

golygu

Fe'i ganed yn Brentwood, Essex a bu farw drwy hunanladdiad yn Llundain. Fe'i magwyd gan rieni efengylaidd, Cristnogol, ac roedd Kane yn Gristion ymroddedig yn ei harddegau. Yn ddiweddarach, fodd bynnag, gwrthododd y credoau hynny. Ar ôl mynychu Ysgol Uwchradd Shenfield, astudiodd ddrama ym Mhrifysgol Bryste, gan raddio yn 1992, ac aeth ymlaen i ddilyn cwrs MA mewn ysgrifennu drama ym Mhrifysgol Birmingham, dan arweiniad y dramodydd David Edgar.[1][3][4][5][6][7][8][9]

Iselder

golygu

Dioddefodd Kane o iselder difrifol am flynyddoedd lawer ac fe'i derbyniwyd ddwywaith yn wirfoddol i Ysbyty Maudsley yn Llundain. Fodd bynnag, ysgrifennodd yn gyson drwy gydol ei bywyd fel oedolyn. Gweithiodd am gyfnod byr fel cyswllt llenyddol ar gyfer y Bush Theatre, Llundain. Yna, am flwyddyn bu'n ysgrifennydd preswyl i Paines Plow, cwmni theatr yn hyrwyddo ysgrifennu newydd, lle anogodd awduron eraill i fynd ati. [10][11][12]

Bu farw Kane yn 1999; ddeuddydd ar ôl cymryd gorddos o gyffuriau presgripsiwn, crogodd ei hun yn ei hystafelloedd mewn ystafell ymolchi yn Ysbyty Coleg y Brenin, Llundain.[13]

Anrhydeddau

golygu
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Theatr Ewrop (1999) .

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Saunders, Graham (2002). Love me or kill me: Sarah Kane and the theatre of extremes. Manchester; Manchester University Press : 2002. t. 224. ISBN 0-7190-5956-9.
  2. Sierz, Aleks (2001). In-yer-face theatre: British drama today. London: Faber and Faber. tt. 120–121. ISBN 0-571-20049-4.
  3. Mark Ravenhill Obituary: Sarah Kane, The Independent, 23 Chwefror 1999
  4. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 17 Gorffennaf 2024.
  6. Dyddiad geni: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Sarah Kane". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sarah Kane". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sarah Kane". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sarah Marie Kane". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sarah Kane". "Sarah Kane".
  7. Dyddiad marw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Sarah Kane". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sarah Kane". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sarah Kane". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sarah Kane". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sarah Marie Kane". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sarah Kane". "Sarah Kane".
  8. Man geni: Oxford Dictionary of National Biography.
  9. Achos marwolaeth: https://www.theguardian.com/books/2000/jul/01/stage1. "Hospital staff 'left suicidal author alone'". The Times. rhifyn: 66627. tudalen: 10. dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 1999.
  10. Alma mater: Oxford Dictionary of National Biography. Oxford Dictionary of National Biography.
  11. Galwedigaeth: "Hospital staff 'left suicidal author alone'". The Times. rhifyn: 66627. tudalen: 10. dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 1999.
  12. Greig, David (1998). "Introduction". Sarah Kane:Complete Plays. t. 90. ISBN 0-413-74260-1.ISBN 0-413-74260-1 ISBN 978-0-413-74260-5
  13. Hattenstone, Simon (1 Gorffennaf 2000). "A sad hurrah (part 2)". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 April 2018.