Sarra Elgan

actores

Cyflwynwraig teledu yw Sarra Elgan (ganed 1979) yn ferch i gyn-chwaraewr rygbi Castell Nedd, Cymru, a'r Llewod, Elgan Rees. Cafodd Sarra ei henwebu, ar ôl pleidlias gan y darllenwyr, yn ferch prydfertha'r Western Mail yn 2006.

Sarra Elgan
Ganwyd1979 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyflwynydd teledu Edit this on Wikidata

Magwraeth a choleg

golygu

Cafodd ei geni yng Nghastell-nedd ond bellach mae'n byw ym Mro Morgannwg gyda'i gŵr, cyn chwaraewr rygbi tîm cenedlaethol Iwerddon, Y Llewod a chyn-gapten Scarlets Llanelli, a hyfforddwr presennol blaenwyr Tim Rygbi Cenedlaethol Iwerddon sef Simon Easterby. Ganed eu merch, Soffia yn 2007 a'u mab Ffredi yn 2009.

Cafodd Sara radd dosbarth cyntaf mewn Theatr, Cerddoriaeth a'r Cyfryngau yn 1999.

Dechreuodd gyrfa teledu Sarra ar strydoedd Cwm Deri yn y raglen sebon Pobol y Cwm, cyn iddi droi ei sylw at gyflwyno.

Mae Sarra'n gyflwynydd profiadol ac wedi troi ei llaw at amrywiaeth o genre, o gerddoriaeth i adloniant i chwaraeon.

Cyflwynydd ar BT Sport yw rôl diweddaraf Sarra, ond mae modd hefyd ei gweld ar Scrum V a Jonathan ar S4C.

Dros y blynyddoedd mae Sarra wedi cyflwyno llu o gyfresi o Aviva Premiership i EPSN, LV Cup a'r The British and Irish Cup, y Celtic League Rugby, Cwpan y Byd 2007, Speedway i Sky, Wakestock, Top Of The Pops Saturday (BBC1), Pop Factory (ITV1 Wales), Pop Factory Music Awards, The Saturday Show (BBC1), The Saturday Show Extra (CBBC), Xchange (CBBC), Play the Game (CITV), Bump and Grind (Trouble), Dial-a-Date (ITV) a A Song for Wales, The Wrap i BBC Wales, Passion for Fashion i HTV, Planed Plant, Bandit, Paparazzi, Rygbi 100%, Ffitrwydd 100%, cer i greu, Cân i Gymru, Y Briodas Fawr, 04 Wal a Popty i S4C.

Yn 2025, hi oedd llywydd Dydd Iau yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Dur a Môr.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Llywydd y Dydd (dydd Iau): Sarra Elgan". Golwg360. 29 Mai 2025. Cyrchwyd 30 Mai 2025.



   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.