Gwleidydd o'r Ffindir yw Satu Hassi (ganwyd 3 Mehefin 1951) sydd hefyd yn academydd, yn awdur ac yn Aelod o Senedd Ewrop sy'n cynrychioli plaid 'Y Gynghrair Werdd' (VIHR, Ffineg: Vihreä liitto). Gwasanaethodd fel y Gweinidog dros yr Amgylchedd yn Llywodraeth y Ffindir rhwng 15 Ebrill 1999 a 31 Mai 2002,[1][2] ac ymddiswyddodd oherwydd penderfyniad y Llywodraeth i adeiladu 5ed atomfa niwclear. [3][4]

Satu Hassi
Ganwyd3 Mehefin 1951 Edit this on Wikidata
Helsinki Edit this on Wikidata
Man preswylTampere Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Y Ffindir Y Ffindir
AddysgLicentiate of Technology Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Aalto Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, academydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swyddmember of the Parliament of Finland, member of the Parliament of Finland, municipal councillor in Finland, member of the Parliament of Finland, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, member of the Parliament of Finland Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Gynghrair Werdd Edit this on Wikidata
TadOsmo Hassi Edit this on Wikidata
Gwobr/auCommander of the Order of the White Rose of Finland Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.satuhassi.fi/ Edit this on Wikidata
Cyflwyniad Saesneg o Satu Hassi; braslun o'i gwaith

Bu Satu Hassi yn arweinydd ar ei phlaid rhwng 1999 a 2001 ac yn aelod o Lywodraeth y Ffindir rhwng 1991 a 2004. Gadawodd y Llywodraeth pan etholwyd hi i Senedd Ewrop, yr unig gynrychiolydd o Blaid Werdd y Ffindir yn 2004.

Fe'i ganed yn Helsinki ar 3 Mehefin 1951. Mae ganddi radd mewn technoleg, mae wedi gweithio fel peiriannydd mewn cwmni pŵer ac wedi dysgu ym Mhrifysgol Technoleg Tampere. Yn y 1970au bu'n aelod o'r Blaid Gomiwnyddol.[5][6]

Yr awdur golygu

hyd at 2019 roedd wedi cyhoeddi tair nofel, casgliad o gerddi a nifer o draethodau. Mae hi hefyd yn awdur ar gyfres o lyfrau ffiseg i fyfyrwyr ysgol uwchradd.

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Commander of the Order of the White Rose of Finland (2000)[7] .


Cyfeiriadau golygu

  1. Nordsieck, Wolfram (2019). "Finland". Parties and Elections in Europe.
  2. "Pleidiau Mwya'r Ffindir". European Parliament Information. 2014.
  3. Swydd: https://www.eduskunta.fi/FI/kansanedustajat/Sivut/363.aspx. https://www.eduskunta.fi/FI/kansanedustajat/Sivut/363.aspx. "Tampere: Ehdokkaat vertauslukujärjestyksessä". Cyrchwyd 14 Chwefror 2017. https://www.eduskunta.fi/FI/kansanedustajat/Sivut/363.aspx. http://www.europarl.europa.eu/meps/en/28321. http://www.europarl.europa.eu/meps/en/28321. http://www.assembly.coe.int/nw/xml/AssemblyList/MP-Details-EN.asp?MemberID=5177. https://www.eduskunta.fi/FI/kansanedustajat/Sivut/363.aspx.
  4. Anrhydeddau: https://ritarikunnat.fi/?page_id=8223. dyddiad cyrchiad: 15 Ionawr 2024.
  5. Dyddiad geni: https://www.eduskunta.fi/FI/kansanedustajat/Sivut/363.aspx. "Satu Hassi".
  6. Man geni: https://www.eduskunta.fi/FI/kansanedustajat/Sivut/363.aspx.
  7. https://ritarikunnat.fi/?page_id=8223. dyddiad cyrchiad: 15 Ionawr 2024.