Atomfa
Atomfa ydy'r enw sy'n cael ei roi ar yr adeilad lle holltir yr atom (fel arfer wraniwm-235 neu plwtoniwm-239). Ceir adweithydd niwclear ym mhob atomfa, wedi'i amgylchynnu gan ddŵr sy'n cael ei gynhesu gan adwaith cadwyn rheoledig a'r stêm, yn ei dro, yn gyrru tyrbeins.

Agorwyd atomfa cyntaf y byd sef Obninsk yn yr Undeb Sofietaidd Atomfa yn 1954 fel arbrawf, ac ar y cychwyn cynhyrchodd tua 5 MW o drydan y flwyddyn. Y cyntaf i wneud hynny'n fasnachol oedd Calder Hall, Windscale, Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, yn 1956. Fe'i hagorwyd ar 27 Awst 1956 gan greu 50 MWe o drydan ar y cychwyn ac yna 200 MW. Defnyddiai bedwar adweithydd Magnox 50 MWe yr un. Flwyddyn yn ddiweddarach agorwyd yr atomfa gyntaf yn America sef Adweithydd Shippingport ym Mhensylfania yn Rhagfyr 1957).
CymruGolygu
Yng Nghymru ceir dwy atomfa: Wylfa (Môn) a geuodd yn 2010 a Thrawsfynydd a ddechreuodd ar y gwaith dadgomisiynu yn 1991.
Dechreuwyd adeiladu Atomfa Wylfa yn 1963 a dechreuodd gynhyrchud trydan yn 1971 ac roedd yno ddwy adweithydd Magnox (490 MW). Dyma'r mwyaf a'r olaf o'i fath yng ngwledydd Prydain. Bydd yn dod i ben ar ddiwedd 2010.
Ceir atomfa hefyd yn Nhrawsfynydd, ond ers 1991 mae wedi dechrau cael ei ddadgomisiynu. Dechreuwyd ar y gwaith o'i adeiladu ym Mawrth 1965 a dechreuodd ar gynhyrchu trydan yn Hydref 1968. Roedd ganddo ddwy adweithydd Magnox ac roedd yn cynhyrchu 470MW o drydan.
DamweiniauGolygu
Dyddiad | Lleoliad | Disgrifiad | Cost (mewn miliynau 2006 $) |
---|---|---|---|
Chwefror22, 1977 | Jasłovske Bohunice, y Wladwriaeth Czech | Yr adwaith yn erydu'n ddifrifol gan ryddhau ymbelydredd oddi fewn i adeiladau'r atomfa gan orfodi ei dadgomisiynnu | US$1,700 |
Mawrth 28, 1979 | Middletown, Pennsylvania, UDA | Yr hylif oeri yn gollwng a'r adweithydd yn creu toddiad niwclear (Three Mile Island) | US$2,400 |
Mawrth 9, 1985 | Athens, Alabama, UUDA | Mesuryddion yn torri i lawr wrth danio gan beri i bob un o'r tri adweithydd i gael eu gohirio 'Browns Ferry Nuclear Power Plant' | US$1,830 |
Ebrill 11, 1986 | Plymouth, Massachusetts, UDA | Problemau gyda'r offer gan orfodi cau'r atomfa 'Pilgrim Nuclear Power Plant' Boston Edison's | US$1,001 |
Ebrill 26, 1986 | Kiev, Ukraine | Ffrwydriad stem a hunan-losgi ('meltdown') gan achosi 4,056 marwolaeth (gweler Trychineb Chernobyl) a symud 300,000 o bobl o Kiev; lledaenodd llawer o'r deunydd ymbelydrol ledled Ewrop gan y gwynt ) | US$6,700 |
Mawrth 31, 1987 | Delta, Pennsylvania, UDA | Problemau gyda'r systemau oeri ac offer | US$400 |
Tachwedd 24, 1989 | Greifswald, Gorllewin yr Almaen | Diffyg trydanol yn achosi tân | UD$443 |
Medi 2, 1996 | Crystal River, Fflorida, UDA | Diffyg yn yr offer 'Balance-of-plant' yn gorfodi cau'r atomfa er mwyn ei thrwsio yn 'Crystal River 3 Nuclear Power Plant' | US$384 |
Chwefror 1, 2010 | Montpelier, Vermont, UDA | Pibellau tanddaearol yn byrstio yn y 'Vermont Yankee Nuclear Power Plant' ac yn colli tritiwm ymbelydrol i'r cyflenwad dŵr. | US$10 [2] |
Gwanwyn 2011 | Fukushima, Japan | Damwain yn dilyn Tswnami Japan lle gwelwyd 4 adweithydd yn gorboethi. | Dim amcangyfrif real wedi'i ddarparu. |
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "The Accidental Century - Prominent Energy Accidents in the Last 100 Years". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-17. Cyrchwyd 2010-07-05.
- ↑ Report details efforts to prevent isotope from reaching Vt. water supplies www.boston.com