Mae'r erthygl yma am y brenin y ceir ei hanes yn yr Hen Destament. Am ystyron eraill, gweler Saul (gwahaniaethu)

Cymeriad yn yr Hen Destament oedd Saul. Ef oedd brenin cyntaf teyrnas unedig Israel.

Dafydd yn canu'r delyn i Saul; llun gan Rembrandt.

Roedd yn fab i Cis, ac yn perthyn i lwyth Benjamin. Gwnaed ef yn frenin yn Gilgal, tua 1025 CC. Roedd ganddo nifer o feibion, gan gynnwys Jonathan ac Abinadab, a dwy ferch, Merab a Michal,.

Yn ôl yr Hen Destament, gwnaed ef yn frenin oherwydd bygythiad y Ffilistiaid a'r Amaleciaid. Enillodd fuddugoliaethau drostynt, ond datblygodd cweryl rhyngddo ef a Samuel. Gorchfygwyd ef gan y Ffilistiaid yn Gilboa, a lladdwyd ef a'i fab, Jonathan. Olynwyd ef gan ei fab, Isboseth, ar wahân i lwyth Jiwda, a ddewisodd Dafydd yn frenin arnynt. Yn y blynyddoedd dilynol, cipiodd Dafydd yr orsedd oddi wrth Isboseth.