Schindler's List
Mae Schindler's List (1993) yn ffilm fywgraffyddol a gyfarwyddwyd gan Steven Spielberg ac a ysgrifennwyd gan Steven Zaillian. Adrodda'r ffilm hanes gwir Oskar Schindler, gŵr busnes Almaenig a achubodd fywydau mwy na mil o Iddewon o Wlad Pwyl o'r holocost drwy eu cyflogi yn ei ffatrioedd.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Steven Spielberg |
Cynhyrchydd | Steven Spielberg Kathleen Kennedy Branko Lustig Gerald R. Molen Lew Rywin Irving Glovin Robert Raymond |
Ysgrifennwr | Thomas Keneally (nofel) Steven Zaillian |
Serennu | Liam Neeson Ben Kingsley Ralph Fiennes Caroline Goodall Embeth Davidtz |
Cerddoriaeth | John Williams |
Sinematograffeg | Janusz Kamiński |
Golygydd | Michael Kahn |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Universal Studios |
Dyddiad rhyddhau | 30 Tachwedd 1993 (Noson agoriadol: DC) 1 Rhagfyr 1993 (Dinas Efrog Newydd) 9 Rhagfyr 1993 (Los Angeles) 15 Rhagfyr 1993 (UDA cyffredinol) 25 Rhagfyr 1993 (Canada) 10 Chwefror 1994 (Awstralia) 18 Chwefror 1994 (DU) 3 Mawrth 1994 (Almaen) 4 Mawrth 1994 (Gwlad Pwyl) |
Amser rhedeg | 195 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Seiliwyd y ffilm ar y nofel Schindler'r Ark gan Thomas Keneally. Mae'n serennu Liam Neeson fel Schindler, Ralph Fiennes fel swyddog yr Schutzstaffel (SS) Amon Göth, a Ben Kingsley fel cyfrifydd Schindler, Itzhak Stern. Bu'r ffilm yn llwyddiant mawr yn y sinemau ac enillodd saith o Wobrau'r Academi, gan gynnwys y Ffilm Orau, Cyfarwyddwr Gorau a'r Sgôr Orau. Yn 2007, rhoddodd y Sefydliad Ffilm Americanaidd y ffilm ar rif wyth o'r ffilmiau Americanaidd gorau erioed.