Chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymraeg yw Scott Williams (ganwyd 10 Hydref 1990, Caerfyrddin). Mae'n chwarae fel canolwr i dîm Cymru a'r Gweilch, ar ôl treulio bron i ddegawd gyda Sgarlets Llanelli.

Scott Williams
Ganwyd10 Hydref 1990 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra183 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau97 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Scarlets, Clwb Rygbi Llanelli, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed Edit this on Wikidata
SafleCanolwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Blynyddoedd cynnar golygu

Chwaraeodd dros Hendy-gwyn ar Daf cyn ymuno â thîm Llanelli. Ymunodd Williams â Scarlets Llanelli yn 2009.

Gyrfa ryngwladol golygu

Cynrychiolodd Williams dimau o dan 16, o dan 18 ac o dan 20 Cymru. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn y Barbariaid ym mis Mehefin 2011. Mae'n siaradwr Cymraeg rhugl.

Fe'i dewiswyd i chwarae yn ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2011, Seland Newydd. Fe sgoriodd bedwar cais yn ystod y twrnament.

Cyfeiriadau golygu