Sebw
Sebw mewn cae ym Mrasil.
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Artiodactyla
Teulu: Bovidae
Is-deulu: Bovinae
Genws: Bos
Rhywogaeth: B. indicus
Cyfystyron

Bos taurus indicus
Bos primigenius indicus

Rhywogaeth o fucholion dof sydd yn frodorol i India yw'r sebw (lluosog: sebwaid, sebwod),[1] ych yr India,[1] neu ych Brahman (Bos indicus). Mae ganddo grwbi cnodiog ar draws ei war, dagell fawr, cyrn byrion crwm a chlustiau llipa. Gall fod o liw melynddu, llwyd neu ddu.

Mae'n wrthiannol i wres a sychder, ac yn ymwrthol i glefydau a gludir gan bryfed, a fe'i defnyddir fel anifail gwaith ar draws Asia ac Affrica. Cyflwynwyd y sebw hefyd i'r Amerig fel da byw yng nghanol y 19g, a chaiff ei groesfridio â gwartheg eraill ar gyfer cig eidion.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi.
  2. (Saesneg) Brahman cattle. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Rhagfyr 2021.