Seiberneteg
Gwyddor systemau rheoli a chyfathrebu yw seiberneteg.[1]
Bathwyd yr enw gan y mathemategydd Norbert Wiener yn ei lyfr Cybernetics: or Control and Communication in the Animal and the Machine (1948), o'r gair Groeg kybernetes sef llywiwr neu reolwr. Yn y 1950au a'r 1960au, roedd seiberneteg yn bwysig iawn i feysydd technolegol newydd gan gynnwys roboteg a cyfrifiadureg, a chafodd ddylanwad ehangach ar wyddoniaeth wybyddol a niwroleg a'r gwyddorau cymdeithas megis seicoleg, anthropoleg, cymdeithaseg, ac economeg. Yn yr 21g mae'r enw seiberneteg wedi colli tir i ddamcaniaethau megis deallusrwydd artiffisial, rhaglennu genetig a rhwydweithiau nerfol, ond mae cysyniadau seiberneteg yn parhau i fod yn ddylanwadol yn systemau gwyddoniaeth a thechnoleg.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ seiberneteg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Awst 2017.
- ↑ Harry Henderson, Encyclopedia of Computer Science and Technology (Efrog Newydd: Facts On File, 2009), t. 124.