Seicdreiddiad
Techneg therapiwtig i drin problemau ac afiechydon meddwl a gychwynwyd gan Sigmund Freud yw seicrdreiddiad (neu seicoanalysis neu seicdreiddiaeth).[1]
Credai Freud fod yr isymwybod yn waelodol i'r meddwl dynol a bod rhyngweithriad rhwng yr isymwybod a'r haenau rhwgymwybodol ac ymwybodol o'r meddwl yn esbonio llawer o gymhlethdodau a phroblemau meddyliol.
Cyhoeddodd ei ddamcaniaeth dechreuol yn y llyfr, Die Traumbuch, a gyhoeddwyd ym 1904.
Cafodd cysyniad Freud ddylanwad mawr ar y mudiad Swrealaeth, a gredai fod y rhyngweithio hyn, o'i ddeall a'i ddefnyddio'n iawn, yn hanfodol i'r broses greadigol sy'n creu gwaith celf, fel gallu tapio i mewn i ffynhonnell anweledig breuddwydion. Mae dadansoddi breuddwydion yn ganolog i dechneg seicdreiddiad.
Dydi pawb ddim yn derbyn damcaniaethau a thechnegau Freud, ac mae rhai yn gwrthod dilysrwydd seicdreiddiad fel gwyddor yn llwyr.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ seicdreiddiad. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.