Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2008 - Ras ffordd merched
Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2008 | ||||
---|---|---|---|---|
Seiclo Ffordd | ||||
Ras ffordd | dynion | merched | ||
Treial amser | dynion | merched | ||
Seiclo Trac | ||||
Pursuit unigol | dynion | merched | ||
Pursuit tîm | dynion | |||
Sbrint | dynion | merched | ||
Sbrint tîm | dynion | |||
Ras bwyntiau | dynion | merched | ||
Keirin | dynion | |||
Madison | dynion | |||
Beicio Mynydd | ||||
Traws-gwlad | dynion | merched | ||
BMX | ||||
BMX | dynion | merched |
Cynhaliwyd ras ffordd merched Gemau Olympaidd yr Haf 2008 ar 9 Awst ar y Cwrs Seiclo Ffordd Trefol. Roedd y ras yn 126.4 cilometr (78.29 milltir o hyd a gwblhawyd mewn amser o 3 awr 32' 24", sef 35.71 cilometr yr awr (22.19 milltir yr awr). Fe gymerodd 66 o ferched o 33 gwlad rhanyn y ras.
Fe ddisgynodd glaw trwm yn ystod y ras, gan greu amodau anodd ar gyfer y reidwyr. Ac er i nifer o reidwyr unigol ymosod oddiar flaen y maes fe dynnwyd pob un yn ôl yn eu tro. Fe dorrodd grŵp o chwech i ffwrdd ar y gylched olaf gan arod i ffwrdd hyd y diwedd lle profodd y Gymraes Nicole Cooke i fod y reidiwr cryfaf ar y dydd.
Roedd beirniadaeth hallt wedi sawl digwyddiad yn ystod y ras: fe gafodd un reidiwr fantais o ddau funud ar flaen y maes ond bu raid iddi stopio gan nad oedd y cwrs wedi ei farcio'n glir. Disgynodd Gu Sungeon o Dde Corea reolaeth ar ei beic mewn un o'r damweiniau gan ddodd ac eraill i lawr gyda hi a disgyn i ffôs concrid dwfn ar ymyl y ffordd.
Roedd y ras hefyd yn nodi'r seithfed tro i'r seiclwraig Ffrengig, Jeannie Longo ddechrau'r ras Olympaidd, a hithau'n 49 oed; fe orffennodd yn y 24ydd safle.
Roedd Maria Isabel Moreno o Sbaen i fod i gymryd rhan yn y ras, ond fe adawodd Beijing y diwrnod cynt. Datganwyd ar 11 Awst ei bod wedi profi'n bositif ar gyfer EPO, hwn oedd y prawf cyffuriau positif cyntaf yng Ngemau 2008.
Canlyniadau
golyguSafle | Reidiwr | Amser |
---|---|---|
Nicole Cooke | 3 awr 32′ 24″ | |
Emma Johansson | 3 awr 32′ 24″ | |
Tatiana Guderzo | 3 awr 32′ 24″ | |
4 | Christiane Soeder | 3 awr 32′ 28″ |
5 | Linda Melanie Villumsen Serup | 3 awr 32′ 32″ |
6 | Marianne Vos | 3 awr 32′ 45″ |
7 | Priska Doppman | 3 awr 32′ 45″ |
8 | Paulina Brzezna | 3 awr 32′ 45″ |
9 | Edita Pucinskaite | 3 awr 32′ 45″ |
10 | Zulfiya Zabirova | 3 awr 32′ 45″ |