Gemau Olympaidd yr Haf 2008

Digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol pwysig oedd Gemau Olympaidd yr Haf 2008, a adnabyddwyd yn swyddogol fel Gemau'r XXIX Olympiad, cynhaliwyd yn Beijing, Tsieina o 8 Awst (gyda'r pêl-droed yn cychwyn ar y 6 Awst) hyd 24 Awst 2008. Dilynwyd y rhain gyda Gemau Paralympaidd yr Haf 2008 o 6 Medi hyd 17 Medi. Disgwylwyd i 10,500 o chwaraewyr gymryd rhan mewn 302 o gystadleuthau mewn 28 o chwaraeon, un cystadleuaeth yn fwy na gemau 2004.[2] Roedd gemau 2008 Beijing hefyd yn nodi'r trydydd tro i'r cystadleuthau gael eu cynnal mewn tiriogaeth dau Pwyllgor Olympiadd Cenedlaethol gwahanol, gan cynhaliwyd y marchogaeth yn Hong Cong.

Gemau'r XXIX Olympiad
Y llythrennau "Jīng" (京), sef yr enw am y ddinas ar logo'r gemau.
DinasBeijing, Tseina
ArwyddairOne World, One Dream
(同一个世界 同一个梦想)
Gwledydd sy'n cystadlu204
Athletwyr sy'n cystadlu11,028[1]
Cystadlaethau302 mewn 28 o Chwaraeon Olympaidd
Seremoni AgoriadolAwst 8
Seremoni GloiAwst 24
Agorwyd yn swyddogol ganHu Jintao, Arlywydd Gweriniaeth Pobl Tsieina
Llw'r CystadleuwyrZhang Yining
Llw'r BeirniaidHuang Liping
Cynnau'r FflamLi Ning
Stadiwm OlympaiddStadiwm Cenedlaethol Beijing

Enillodd Nicole Cooke y ras ffordd i ferched gan roi i Gymru y fedal aur gyntaf ers i Richard Meade ennill mewn marchogaeth yng Ngemau Olympaidd 1972. Enillodd dau Gymro arall fedalau aur: Geraint Thomas am seiclo a Tom James am rwyfo.

Chwaraeon golygu

Cynhaliwyd y chwaraeon canlynol yn y gemau hyn, gyda'r nifer o gystadleuthau mewn cronfachau.

Medalau golygu

Dyma'r 10 cenedl a enillodd y nifer fwyaf o fedalau yn y Gemau yma:

 Safle  Gwlad Aur Arian Efydd Cyfanswm
1   Gweriniaeth Pobl Tsieina 51 21 28 100
2   Unol Daleithiau America 38 36 110
3   Rwsia 23 21 28 72
4   Prydain Fawr 19 13 15 47
5   Yr Almaen 16 10 15 41
6   Awstralia 14 15 17 46
7   De Corea 13 10 8 31
8   Japan 9 6 10 25
9   Yr Eidal 8 10 10 28
10   Ffrainc 7 16 17 40

Cyfeiriadau golygu

  1. "NOC entry forms received" (Press release). International Olympic Committee. 1 Awst, 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-08. http://en.beijing2008.cn/news/official/preparation/n214496035.shtml. Adalwyd 2008-08-9-08.
  2.  6th Coordination Commission Visit To Begin Tomorrow. International Olympic Committee.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: