Marianne Vos
Seiclwraig ffordd proffesiynol Iseldiraidd ydy Marianne Vos (ganwyd 13 Mai 1987). Mae wedi cael ei chymharu â Eddy Merckx fel "un o'r reidwyr gorau o'i chenhedlaeth".[1]
![]() | |
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Marianne Vos |
Dyddiad geni | 13 Mai 1987 |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd, Cyclo-cross & Beicio Mynydd |
Rôl | Reidiwr |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2006 2007 |
Team DSB-Ballast Nedam Team DSB Bank |
Prif gampau | |
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() Cwpan y Byd Ffordd (Merched) UCI 2007 | |
Golygwyd ddiwethaf ar 21 Awst 2012 |
Ar ôl ennill pencampwriaethau Ewrop a'r byd ar y ffordd yn y categori Iau, aeth ymlaen i ennill Bencampwriaethau'r Byd ar y ffordd ac yn cyclo-cross yn ei blwyddyn cyntaf fel reidiwr hyn yn 19 oed. Aeth ymlaen i ddod yn bencampwraig y byd ar y trac yn ogystal wedi ennill y ras bwyntiau yn 2008 a'r ras scratch yn 2011. Enillodd y fedal aur yn y ras bwyntiau yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2008 a'r ras ffordd yn 2012.
BywgraffiadGolygu
Ganed Marianne Vos yn 's-Hertogenbosch, Noord-Brabant a mae'n byw yn Meeuwen. She started her career when she was six years old after she watched her older brother who was already a cyclist.[2] Dechreuodd hyfforddi gan reidio gyda thîm ei brawd, ond nid oedd yn cael cystadlu i gychwyn, a dechreuodd reidio cyclo-cross yn ystod y gaeaf yn ogystal. Dechreuodd rasio cyn gyntad a gallai pan oedd yn 8 oed.[2] Cystadlodd hefyd mewn sglefrio cyflymder a sglefrio cyflymder mewn-lein. Pan oedd yn 14, rhoddodd y gorau ar sglefrio a dechreuodd feicio mynydd yn hytrach.
CanlyniadauGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ William Fotheringham (29 Gorffennaf 2012). London 2012: Lizzie Armitstead strikes Olympic silver on a soggy Mall. The Guardian.
- ↑ 2.0 2.1 Persoonlijke gegevens Marianne Vos, mariannevos.nl
Dolenni allanolGolygu
- Gwefan swyddogol
- Proffil Marianne Vos ar CycleBase.nl
- Proffil Marianne Vos ar Cycling Archives