Seiclwraig rasio proffesiynol o Gymru yw Nicole Cooke MBE (ganed 13 Ebrill 1983). Mae hi'n byw yn Lugano, y Swistir.[1]

Nicole Cooke
Ganwyd13 Ebrill 1983 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethseiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
Taldra167 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau58 cilogram Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.nicolecooke.com/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auAstana-Acca Due O, Garmin-Cervélo, Vision 1 Racing, UAE Team ADQ, Estado de México-Faren, Aušra Gruodis-Safi, Pragma Deia Colnago, Astana-Acca Due O, Team Halfords Bikehut Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeony Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Dyddiau cynnar

golygu

Ganwyd Cooke yn Abertawe a magwyd hi yn Y Wig, Bro Morgannwg. Mynychodd Ysgol Gyfun Brynteg ar Heol Eweni ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle roedd hi flwyddyn yn iau na Gavin Henson. Dechreuodd Cooke seiclo yn ifanc a chafodd gryn lwyddiant wrth reidio yn y rasus ieuenctid. Teithiodd dramor i'r Iseldiroedd yn aml ers oedd yn ddeuddeg oed, gan gystadlu yn erbyn ei chyd-gystadleuwyr o'r Wlad Belg, yr Almaen, a'r Iseldiroedd. Drwy hyn enillodd brofiad o gystadlu ar safon uwch y cyfandir.

Yn un ar bymtheg oed, enillodd Cooke ei theitl cenedlaethol hŷn cyntaf gan ymgymhwyso i gymryd rhan yng Ngemau Olympaidd 2000. Ond cafwyd dadl rhwng Cooke a'r awdurdodau, a oedd yn mynnu nad oedd hi yn ddigon hen i gymryd rhan. Fe gafodd Cooke gefnogaeth gan Shane Sutton, hyfforddwr seiclo Cymru ar y pryd, a thynnwyd sylw at oedran ifanc chwaraewyr mewn nifer o chwaraeon Olympiadd eraill megis gymnasteg a nofio, ond gwrthodwyd yr awdurdodau gyfaddawdu.[2][3] Yn 2001 derbyniodd Cooke wobr y Bidlake Memorial Prize, a roddir ar sail perfformiadau diarhebol neu gyfraniad i welliant seiclo. Enillodd bedwar Teitl Iau y Byd, gan gynnwys un ym Mhortiwgal yn 2001.

Ymlaen i lwyfan y byd

golygu

Cystadleuodd yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2002, ac enillodd y ras ffordd i ferched gan ddiweddu gyda sbrint syfrdanol. Fe'i henwebwyd ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru.

Yn 2003 enillodd Cooke ras La Flèche Wallonne Féminine yng Ngwlad Belg. Roedd hi yn y drydedd safle ym Mhencampwriaeth Ras Ffordd y Byd. Hi oedd Pencampwraig Cwpan y Byd Rasio Ffordd i Ferched yr UCI yn 2003, yr ieuengaf erioed a'r Brydeinwraig gyntaf i wneud hynny. Dioddefodd ddamwain ym mis Hydref, ac yn sgil hyn gorfu iddi gael llawdriniaeth ar ei [[pen-glin|phen-glin.

Y flwyddyn ganlynol enillodd y Giro d'Italia Femminine: y person ifengaf erioed i wneud hynny. Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2004 daeth yn 5ed yn y Ras Ffordd i Ferched ac yn 19eg yn y Treial Amser i Ferched.

Eto yn 2005, cymerodd y safle cyntaf yn La Flèche Wallonne Féminine a daeth yn ail ym Mhencampwriaeth Ras Ffordd y Byd. Ym mis Rhagfyr 2005, yn ystod ei pharatoadau ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2006, torrodd bont ei hysgwydd wrth gystadlu ar y felodrom yn ystod Cymal Manceinion o Gwpan y Byd; er hyn, enillodd y fedal efydd yn Ras Ffordd y Gemau.

 
Nicole Cooke yn ennill 19eg Ras
Rhyngwladol Beicio Thuringia yn Zeulenroda-Triebes.

Gyrfa proffesiynol

golygu

Trodd Cooke yn broffesiynol gyda'r tîm Ausra Gruodis-Safi, a dysgodd Eidaleg wrth fyw a rasio yn yr Eidal. Yn niwedd 2005, arwyddodd i'r tîm Univega a oedd wedi'i leoli yn y Swistir.

Ar 1 Awst 2006, cyhoeddwyd mai hi oedd seiclwraig ffordd rhif un y byd UCI ac ar 3 Medi 2006 enillodd Gwpan y Byd Seiclo Ffordd yr UCI 2006, gyda ras mewn llaw. Hi enillodd y Grande Boucle 2006 - fersiwn merched o'r Tour de France. Yn ystod 2006 enillodd hefyd Bencampwriaeth Rasio Ffordd Prydain, La Flèche Wallonne, La Coupe du Monde Cycliste Féminine de Montréal, a Threial Amser y Magali Pache, Ras Cwpan y Byd Castilla y Leon a Ras Cymalau'r Thüringen-Rundfahrt. Ym mis Medi 2006 enillodd y drydedd safle unwaith eto ym Mhencampwriaeth Ras Ffordd y Byd yr UCI.

Yn 2007, enillodd ras Cwpan y Byd, Geelong a'r Ronde van Vlaanderen, Cylchdaith Fflandrys i Ferched, sef y ddwy ras gyntaf yng Nghwpan y Byd Seiclo Ffordd yr UCI 2007. Enillodd hefyd y Trofeo Alfredo Binda ac ail gymal y GP Costa Etrusca. Hi eto oedd enillydd y Grande Boucle. Ar noswyl cymal olaf Cwpan y Byd, Rasio Ffordd, roedd Nicole yn arwain y gystadleuaeth o 80 o bwyntiau. Roedd wedi bod yn cael trafferthion â'i phen-glin a gohiriodd lawdriniaeth arni hyd 17 Medi er mwyn gallu cystadlu yn y cymal olaf.[4] Rhwystrodd ei phen-glin hi rhag cystadlu'n gryf a gorffennodd yn y 34ain safle yn y ras. Rhoddodd hyn y fuddugoliaeth yng Nghwpan y Byd i Marianne Vos, 70 o bwyntiau o flaen Nicole, a ddaeth yn ail.

Mae Nicole yn arwain tîm Halfords Bikehut yn 2008, ac yn defnyddio beiciau Boardman. Cafodd ei buddugoliaeth gyntaf yn 2008 yn Tour de l'Aude, gan ennill y cymal cyntaf.[5]

Cynrychiolodd Brydain yng Ngemau Olympaidd 2008 yn Beijing, gan gipio'r fedal aur yn y Ras Ffordd i Ferched a rhoi i Gymru ei medal aur gyntaf yn y gemau ers 36 mlynedd. Hon oedd y 200fed medal aur i'w hennill dros Brydain yn hanes y Gemau Olympaidd.[6] Hon oedd y fedal aur gyntaf iw ennill gan Gymry ers i Richard Meade ennill yn farchogaeth yng Ngemau Olympaidd 1972.

Enillodd Nicole y Giro del Trentino ym mis Mehefin 2009, ac ar y 27 Mehefin enillodd y Bencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain am y degfed tro.[7]

Canlyniadau

golygu
1999
1af   Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
(Enillodd y ras hon er ei bod dal yn y categori Iau, a hithau'r ifengaf erioed i wneud hyn.)
2000
1af   Pencampwriaeth y Byd, Ras Ffordd Merched Iau, Plouay
2il Pencampwriaeth Cenedlaethol Cyclo Cross
3ydd Pencampwriaeth y Byd, Beicio Mynydd Merched Iau, Lisbon
5ed Grand Prix de Quebec
2001
1af   Pencampwriaeth y Byd, Ras Ffordd i Ferched Iau, Lisbon
1af   Pencampwriaeth y Byd, Treial Amser i Ferched Iau, Lisbon
1af   Pencampwriaeth y Byd, Beicio Mynydd i Ferched Iau, Colorado
1af   Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
1af   Pencampwriaeth Cenedlaethol Cyclo Cross (Yr enillydd ifengaf erioed)
1af Gwobr Beicwraig Ifanc Gorau, Grand Prix de Quebec
1af Crys y Mynyddoedd, Grand Prix de Quebec
2002
1af   Ras Ffordd i Ferched, Gemau'r Gymanwlad, Manceinion
1af   Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
1af 12fed Trofeo Citta di Rosignano, Yr Eidal
1af 4ydd Memorial Pasquale di Carlo, Yr Eidal
1af Crys y Mynyddoedd, Trofeo Banca Populaire, Yr Eidal
1af Cymal 2, Trofeo Banca Populaire, Yr Eidal
1af Ronde van Westerbeek, Holland
1af Gwobr Beicwraig Ifanc Gorau, Giro della Toscana
1af Gwobr Beicwraig Ifanc Gorau, Giro del Trentino
3ydd Veulta Castilla-y-Leon, Sbaen
3ydd Tour Midi Pyrenees, Ffrainc
1af Cymal 2, Tour Midi Pyrenees, Ffrainc
1af Crys y Mynyddoedd, Tour Midi Pyrenees, Ffrainc
2003
Enillydd Cwpan y Byd Ras Ffordd i Ferched yr UCI
1af Ras Cwpan y Byd, Amstel Gold
1af Ras Cwpan y Byd, La Flèche Wallonne Féminine
1af Ras Cwpan y Byd, GP Plouay
1af GP San Francisco
1af Cymal 5 Cylchdaith Holland i Ferched
1af Crys y Mynyddoedd, Vuelta Castilla y Leon
1af Gwobr Beicwraig Ifanc Gorau, Trofeo Banco Populare Alto Adige
1af Gwobr Beicwraig Ifanc Gorau, Giro Della Toscana
1af Cam 3a Giro Della Toscana
1af   Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
3ydd Pencampwriaeth y Byd, Ras Ffordd i Ferched, Hamilton
2004
1af Giro d'Italia Femminine (Giro Donne)
1af Cymal 8, Giro d'Italia Femminine (Giro Donne)
1af GP San Francisco/T Mobile International
1af   Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
1af Gwobr Reidiwr Ifanc Gorau, Giro Della Toscana
1af Crys Pwyntiau, Giro Della Toscana
5ed Ras Ffordd i Ferched, Gemau Olympaidd yr Haf
19eg Treial Amser i Ferched, Gemau Olympaidd yr Haf
2005
1af Ras Cwpan y Byd, La Flèche Wallonne Féminine
1af GP Wallonie, Gwlad Belg
1af Trofeo Alfredo Binda, Cittiglio, Yr Eidal
1af 15fed Trofeo Citta di Rosignano, Yr Eidal
1af   Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
1af Cymal 5 Cylchdaith Holland i Ferched
1af Cymal 1a Giro Della Toscana
2il Pencampwriaeth y Byd Ras Ffordd i Ferched
2006
1af Rhengoedd y Byd, UCI
1af Cwpan y Byd Ras Ffordd i Ferched yr UCI
1af Ras Cwpan y Byd, Castilla y Leon
1af Ras Cwpan y Byd, La Flèche Wallonne Féminine
1af Ras Cwpan y Byd, Treial Amser Tîm yr Awr Aur
2il Ras Cwpan y Byd, La Coupe du Monde Montréal
2il Ras Cwpan y Byd, Open de Suède Vargarda
3ydd Ras Cwpan y Byd, GP de Plouay
4ydd Ras Cwpan y Byd, Cylchdaith Rotterdam
5ed Ras Cwpan y Byd, Berner-Rundfahrt
5ed Ras Cwpan y Byd, Rund um die Nürnberger Altstadt
6ed Ras Cwpan y Byd, Ronde van Vlaanderen
8fed Ras Cwpan y Byd, Geelong
1af Grande Boucle Feminine
1af Cymal 1, Grande Boucle Feminine
1af Cymal 2, Grande Boucle Feminine
1af Thuringen Rundfahrt (Cylchdaith yr Almaen i Ferched)
1af Cymal 2, Thuringen Rundfahrt
1af Cymal 4a, Thuringen Rundfahrt
1af Cymal 4b, Thuringen Rundfahrt
1af Cymal 5, Thuringen Rundfahrt
1af   Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
1af Treial Amser Magali Pache
1af Crys y Mynyddoedd, Cylchdaith Seland Newydd
1af Gwobr Beicwraig Ifanc Gorau, Giro del Trentino
3ydd   Ras Ffordd Merched, Gemau'r Gymanwlad, Melbourne
3ydd Pencampwriaeth y Byd Ras Ffordd i Ferched
2007
1af Rhengoedd y Byd, UCI
1af   Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
1af Grande Boucle Feminine
1af Cylchdaith Geelong
1af Cylchdaith Alfredo Binda
1af GP Costa Etrusca
2il Cwpan y Byd Ras Ffordd i Ferched yr UCI
1af Ras Cwpan y Byd, Ronde van Vlannderen
1af Ras Cwpan y Byd, Geelong
2il Ras Cwpan y Byd, GP de Plouay
2il Ras Cwpan y Byd, La Flèche Wallonne
4ydd Ras Cwpan y Byd, Berner-Rundfahrt
5ed Ras Cwpan y Byd, La Coupe du Monde Montréal
7fed Ras Cwpan y Byd, Ronde van Drenthe
12fed Ras Cwpan y Byd, Open de Suède Vargarda
34ain Ras Cwpan y Byd, Rund um die Nürnberger Altstadt
4ydd Treial Amser Magali Pache
2008
1af   Ras ffordd, Gemau Olympaidd yr Haf 2008
1af   Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
4ydd Tour de l'Aude
1af Cymal 1, Tour de l'Aude
10fed Cymal 4, Tour de l'Aude
7fed Cymal 6, Tour de l'Aude
3ydd Cymal 9, Tour de l'Aude
2009
4ydd Iurreta-Emakumeen Bira
1af Cymal 2
1af Cymal 3b
1af Giro del Trentino
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
Rhagflaenydd:
Megan Hughes
  Pencampwraig Cenedlaethol Ras Ffordd i Ferched
1999
Olynydd:
Ceris Gilfillan
Rhagflaenydd:
Ceris Gilfillan
  Pencampwraig Cenedlaethol Ras Ffordd i Ferched
2001, 2002, 2003, 2004, 2005, 2006, 2007 a 2008
Olynydd:
I ddod
Rhagflaenydd:
Mark Hughes
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
2003
Olynydd:
Tanni Grey-Thompson

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: