Seico-ddaearyddiaeth
Mae Seico-ddaearyddiaeth neu Seicgeograffeg (Saesneg: Psychogeography, Ffrangeg: Psychogéographie) yn disgrifio effaith lleoliad daearyddol, yn arbennig dinasoedd, ar emosiynau ac ymddygiad unigolion.
Enghraifft o'r canlynol | symudiad celf |
---|
Fe’i datblygwyd yn bennaf yn Ffrainc gan feddylwyr radicalaidd fel ffordd o edrych ar y byd o amgylch mewn ffordd wahanol. Eu gobeithio oedd i bobol herio syniadau confensiynol a dechrau meddwl yn wahanol am reolaeth gymdeithas a'r cyfyngiadau o fyw mewn dinas.[1]
Mae syniadau seico-ddaearyddiaeth bellach wedi'u datblygu yn yr 21ain ganrif gan awduron fel Iain Sinclair a Will Self, a hefyd gwneuthurwyr mapiau. [2][3]
Sylfaenwyr
golyguFe’i datblygwyd yn bennaf yn Ffrainc gan aelodau mudiadau Letterist yn y 1950au a’r Situationist International yn y 1960, sef grwpiau o feddylwyr radicalaidd a Marcsaidd ac anarchaidd oedd wedi’u dylanwadu gan syniadau’r mudiadau celfyddydol Dada a Swrealaeth.
Ym 1955, diffiniodd Guy Debord seico-ddaearyddiaeth fel "astudiaeth o union gyfreithiau ac effeithiau penodol yr amgylchedd daearyddol, wedi'i drefnu'n ymwybodol ai peidio, ar emosiynau ac ymddygiad unigolion." Un o'r tactegau allweddol ar gyfer seico-ddaearyddiaeth yw'r dérive.[4]
Dérive
golyguMae dérive yn fath o grwydro trwy amgylchedd trefol. Heb fwriadau mynd o bwynt A i bwynt B, ond yn hytrach i edrych ac ystyried y ddinas mewn ffordd sy’n agored i siawns a serendipidi.
Nid yw seico-ddaearyddiaeth yn chwilio am golygfeydd neu i fod yn fath o dwristiaeth. Mae'n ymwneud â phrofi'r ddinas mewn ffordd gorfforol a seicolegol. Mae'n siawns i weld corneli bach a llefydd wedi sydd wedi anghofio a darganfod cyfrinachau'r ddinas a'i hanes cudd.
Mae seico-ddaearyddiaeth yn gallu bod yn ffordd hwyliog i grwydro dinas. I helpu gweld y ddinas mewn ffordd newydd ac i gysylltu â hi ar lefel ddyfnach. Ond bwriad y Letterist a’r Situationist International oedd bod yn arf pwerus ar gyfer newid cymdeithasol a gwleidyddol. Trwy edrych ar y ddinas mewn ffordd feirniadol a chreadigol, mae seico-ddaearyddwyr yn gobeithio herio’r status quo ac efallai creu posibiliadau newydd ar gyfer y dyfodol.[5]
Yn yr 21ain ganrif
golyguMae syniadau seico-geograffeg wedi datblygu ers y 1960au gydag ysgrifenwyr fel Iain Sinclair, Will Self, Stewart Home a Rhys Mwyn yn defnyddio’r techneg yn yr 21ain ganrif.
Mae teithiau cerdded wedi tywys sy'n dangos llefydd cudd neu gyfleu hanes neu eglurhad sy’n wahanol i fersiwn swyddogol neu ddiwydiant twristaidd yn gallu cael eu cyfrif fel math o seico-ddaearyddiaeth.
Mae techneg y Situationist o dorri map yn ddarnau a gludo nhw gyda’i gilydd mewn trefn wahanol i greu map newydd wedi dylanwadu ar sut mae rhai cartograffwyr yn cyfleu gwybodaeth. Er enghraifft mae map yn dangos y blaned gyda gwledydd cyfoethog Ewrop ac America yn y gwaelod a gwledydd tlotach y De Amercia, Asia ac Affrica ar y pen yn fath o Seico-ddaearyddiaeth.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Leaving the 20th Century: Incomplete Work of the Situationist International 1974/1998, gol. Christopher Grey
- ↑ https://www.iainsinclair.org.uk/category/psychogeography-2/
- ↑ [1]
- ↑ Edward John Matthews, Arts and Politics of the Situationist International 1957–1972 (2021)
- ↑ Guy Debord, Theory of the Dérive, cyf. Ken Knabb (Les Lèvres Nues, 1956).
- ↑ [2]