Guy Debord
Athronydd Marcsaidd a gwneuthurwr ffilmiau Ffrengig oedd Guy Debord (28 Rhagfyr 1931 – 30 Tachwedd 1994).[1]
Guy Debord | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Guy-Ernest Debord ![]() 28 Rhagfyr 1931 ![]() Paris ![]() |
Bu farw | 30 Tachwedd 1994 ![]() o anaf balistig ![]() Bellevue-la-Montagne ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwneuthurwr ffilm, athronydd, cyfarwyddwr ffilm, dylunydd graffig, sgriptiwr, awdur ysgrifau, ysgrifennwr, hunangofiannydd, cyfieithydd, gweithredwr dros heddwch, cynllunydd gems, artist ![]() |
Mudiad | Internationale situationniste, Letterist International ![]() |
Priod | Alice Becker-Ho ![]() |
llofnod | |
![]() |
Ganed ym Mharis, ac yn ei ieuenctid daeth yn gyfeillgar ag artistiaid a deallusion adain-chwith y ddinas. Cynhyrchodd ei ffilm gyntaf, Hurlements en faveur de Sade, yn 1952.
Gweithiodd gyda Isidor Isou a Maurice Lamaitre, aelodau'r cymundod artistig L'Internationale lettriste, i wneud celf arbrofol a elwir "gwrth-gelf" a chanddi ei gwreiddiau ym mudiadau Dada a Swrealaeth.
Ysgrifennodd nifer o erthyglau a golygodd sawl rhifyn o gylchgawn L'Internationale Situationniste. Cyhoeddodd ei gampwaith, La société du spectacle, yn 1967.
Tynnodd ar syniadaeth yr avant-garde ac astudiaethau pensaernïaeth, y sinema, a chynllunio tref yn ogystal â damcaniaeth Marx yn ei ymdriniaeth o'r "sbectacl" fel amlygiad o ymddieithriad a thrin profiad y ddynolryw yn gynwydd. Cyhoeddodd ddilyniant i'r gwaith hwnnw, Commentaires sur la société du spectacle, yn 1988.
Bu farw trwy hunanladdiad yn 62 oed.
- Gweler hefyd: Internationale situationniste
- Darllen pellach: Andrew Hussey, The Game of War: The Life and Death of Guy Debord (Llundain: Pimlico, 2002).
Cyfeiriadau golygu
- ↑ (Saesneg) Sadie Plant, "Obituary: Guy Debord[dolen marw]", The Independent (2 Ionawr 1995). Adalwyd ar 30 Ionawr 2020.