Internationale situationniste

Roedd y Situationist International (SI) (Ffrangeg: internationale situationniste) yn fudiad rhyngwladol o radicalwyr, yn cynnwys athronwyr, artistiaid avant-garde, ysgrifennwyr ac academyddion.

Rhifyn 1 o gyhoeddiad yr IS: Internationale situationniste

Roedd yn amlwg yn Ewrop o'i ffurfio yn 1957 hyd i’r mudiad dod ei hun i ben yn 1972.

Prif nod yr IS oedd creu ffurf newydd o gelfyddyd a gwleidyddiaeth chwyldroadol i herio'r drefn gyfalafol. Eu prif weithgaredd oedd ysgrifennu erthyglau, pamffledau a llyfrau, ond maen nhw’n cael eu cofio’n bennaf am greu digwyddiadau situation i geisio herio natur pasif y cyhoedd.

Roedd athronwyr yr IS o'r farn bod y cyhoedd wedi’i gyflyru gan y Spectacle - sioe fawr ffals o brofiadau ail-law y cyfryngau torfol a hysbysebu. Yn ôl yr IS roedd y Spectacle yn gwneud i’r cyhoedd dderbyn y byd fel yr oedd ac i gael chwant am brynu’r eitem nesaf tuag at ddelfryd o foethusrwydd sy’n amhosib i’w cyrraedd.

Roedd yn IS yn grŵp cymharol fach, gydag aelodaeth byth yn fwy na thua 100 o bobl, serch hynny roedd yn hynod ddylanwadol. Mae dylanwad yr IS yn cael ei gysylltu’n aml gyda ddatblygiad mudiadau gwrth-ddiwylliant y 1960au a'r 1970au, yn arbennig protestiadau Paris, Mai 1968.

Yr aelod mwyaf adnabyddus o IS oedd un o’r arweinwyr Guy Debord. Dosbarthwyd ei syniadau trwy eu cyhoeddiad Internationale Situationniste, a thrwy ysgrifau a gweithgareddau ei aelodau. [1] [2]

Sefydlu golygu

Sefydlwyd yr IS ym 1957 mewn cyfarfod yn Alba, yr Eidal, gan grŵp o artistiaid ac ysgrifennwyr oedd wedi ymwneud â Lettrisme a mudiadau avant-garde eraill.

Roedd yr aelodau sefydlu yn cynnwys Guy Debord, Michèle Bernstein, Ivan Chtcheglov, Asger Jorn, a Raoul Vaneigem. Amlinellodd maniffesto cychwynnol '’Internationale situationniste'’ nodau ac amcanion y grŵp.

Daeth sylfeini deallusol y Situationist International yn bennaf o Farcsiaeth ryddfrydol. Hefyd mudiadau celf avant-garde ar ddechrau'r 20fed ganrif fel Dada a Swrealaeth oedd yn defnyddio damcaniaethau beirniadol, yn arbennig mewn barddoniaeth, ffilm, peintio a theori wleidyddol.

Syniadau yr IS golygu

 
Esiampl o Détournement – hysbys sigarets brand Marlboro wedi cael ei newid i It's a bore

Prif nod yr IS oedd creu ffurf newydd ar gelfyddyd a gwleidyddiaeth chwyldroadol i herio'r drefn gyfalafol bresennol. Roedd y grŵp yn credu bod y system gyfalafol wedi creu cymdeithas o ‘'ddieithrio,'’ (dieithrio = alianation: rhywun yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cau allan/heb rheolaeth dros elfennau eu bywyd). Lle'r oedd pobl yn cael eu dieithrio oddi wrth eu llafur eu hunain, eu cyrff eu hunain, a'u cymunedau eu hunain.

Mae Spectacle (Y gair Frangeg am 'sioe' neu 'byd adloniant') yn syniad canolog mewn i’r IS, wedi ei ddatblygu gan Guy Debord yn ei lyfr 1967 La société du spectacle.

Yn ôl Debord mae spectacle yn golygu'r ffordd mae cyfryngau torfol ers y 1920au wedi creu sioe ffug "ei amlygiad arwynebol mwyaf disglair." Mae beirniadaeth spectacle yn ddatblygiad o syniadau Karl Marx o ffetisiaeth o nwyddau, a dieithrio. Yng nghymdeithas y sioe, y nwyddau sy'n rheoli'r gweithwyr a'r defnyddwyr yn lle cael eu rheoli ganddynt.

Mor gynnar â 1958, yn y maniffesto internationale situationniste, disgrifiodd Debord ddiwylliant swyddogol fel "gêm wedi trefnu’n dwyllodrus", lle mae pwerau ceidwadol yn atal syniadau gwahanol neu wrth-sefydliadol rhag gael mynediad uniongyrchol i ymwybyddiaeth cyhoeddus.

Mae syniadau heriol o'r fath yn cael eu bychanu a'u sterileiddio yn gyntaf, ac yna eu hymgorffori'n ddiogel yn ôl o fewn cymdeithas brif ffrwd sydd wedyn yn manteisio arnynt.

Dadleuodd yr IS mai'r unig ffordd i guro’r apathi yma oedd trwy greu ‘sefyllfaoedd,’ (sitiuations/happenings)’fel ‘darnau bach o ennyd o fywyd’. Bwriad ‘sefyllfaoedd’ oedd bod yn brofiadau a fyddai'n caniatáu i bobl fyw'n llawnach ac yn fwy dilys, y tu allan i gyfyngiadau cymdeithas gyfalafol.

Datblygodd yr IS nifer o strategaethau ar gyfer creu sefyllfaoedd/digwyddiadau, gan gynnwys seico-ddaearyddiaeth, detournement, dérive ac urbanisme unitaire.

Détournement (ail-gyfeirio/troi wyneb i waered) oedd y syniad o danseilio neu ymateb i Spectical trwy ddigwyddiadau situation. Weithiau'n 'pranc' sydyn o weithgaredd profoclyd fel newid geiriad hysbysfwrdd neu ysgrifennu graffiti fel Ne travaillez jamais (Peidiwch weithio).

Weithiau roeddent dim ond yn greu rhyw weithgaredd bach ar hap, er mwyn cael profiadau annisgwyl go iawn i geisio torri’n rhydd o rheolaeth cymdeithasol am gyfnod byr ar delerau eu hunain.

Tactegau arall oedd Dérive (drifftio) a Psychogéographie (sieco-ddaearyddiaeth), er enghraifft cerdded strydoedd tra’n dilyn map dinas arall. Y rhai’n cymryd rhan yn fanteisio ar y cyfle o ymddwyn yn groes i arferion disgwyliedig a gwneud pwynt o ddianc o gyfyngiadau normalrwydd.

Roedd Urbanisme unitaire yn ddamcaniaeth cynllunio trefol i geisio greu dinasoedd a oedd yn fwy ffafriol i greadigrwydd a rhyddid dynol.

Roedd beirniadaeth y grŵp o gyfalafiaeth a’i bwyslais ar reolaeth unigol yn atseinio gan lawer o bobl ifanc a oedd wedi’u dadrithio â’r chwith draddodiadol a’i ffocws ar newid graddol o dan arweiniad y wladwriaeth.

Daeth yr IS i ben ym 1972, yr aelodau yn penderfynu dod a’r mudiad i’w ben.[3] [4]

Dylanwad yr IS golygu

 
Myfyrwyr yn protestio y tu allan i Brifysgol Sorbonne, Paris, 3 Mai 1968

Cafodd syniadau a gweithgareddau'r IS effaith sylweddol ar ddatblygiad mudiadau gwrth-ddiwylliant y 1960au a'r 1970au. Yn arbennig protestiadau Paris ym mis Mai 1968.

Dylanwadodd syniadau IS hefyd ar ddatblygiad ffurfiau newydd ar gelfyddyd, fel celf perfformio a graffiti, a mathau newydd o weithredu gwleidyddol, fel gweithredu uniongyrchol ac phrotest sifil. [5] [6]

Mae teitl Gadael yr Ugainfed Ganrif (1985) - record hir aml-gyfrannog Recordiau Anhrefn a teitl record hir Manic Street Preachers Leaving the 20th Century (2000) yn deitlau sy’n gysylltiedig â Internationale situationniste.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Leaving the 20th Century: Incomplete Work of the Situationist International 1974/1998, Golygydd: Christopher Grey. ISBN-13 ‏ : ‎ 978-0946061150
  2. Arts and Politics of the Situationist International 1957–1972. Awdur: Edward John Matthews, 2021. ISBN-13 ‏ : ‎ 978-1793647085
  3. Leaving the 20th Century: Incomplete Work of the Situationist International 1974/1998, Golygydd: Christopher Grey. ISBN-13 ‏ : ‎ 978-0946061150
  4. Arts and Politics of the Situationist International 1957–1972. Awdur: Edward John Matthews, 2021. ISBN-13 ‏ : ‎ 978-1793647085
  5. Leaving the 20th Century: Incomplete Work of the Situationist International 1974/1998, Golygydd: Christopher Grey. ISBN-13 ‏ : ‎ 978-0946061150
  6. Arts and Politics of the Situationist International 1957–1972. Awdur: Edward John Matthews, 2021. ISBN-13 ‏ : ‎ 978-1793647085