Seindorf Beaumaris

band pres Cymreig

Band pres yn nhref hanesyddol Biwmares, Ynys Môn, ydy Seindorf Beaumaris. Mae’n rhan bwysig o gymuned y dref, ac mae’n llwyddiannus iawn. Mae’n sefydliad o bump band, y bandiau Cychwynnol, Canolraddol, Ieuenctid, Hŷn, a’r LSW.

Y Sefydliad

golygu

Cafodd y band ei sefydlu yn 1921. Yn wahanol i fandiau eraill, yn lle cystadlu yn genedlaethol ar draws Cymru, roedden nhw'n diddanu pobl y dref. Mae'r sefydliad yn rhan fawr o'r gymuned, yn cymryd rhan yng ngorymdaith Sul y Maer a Sul y Cofio ac yn cynnal cyngherddau yn y dref. Mae'r bandiau hefyd yn cystadlu ar draws Prydain ac Ewrop, mewn cystadlaethau cenedlaethol ac Ewropeaidd.

Y Bandiau

golygu

Y band cychwynnol yw’r band i blant sydd newydd gychwyn chwarae.

Mae’r band canolraddol i blant sydd yn gwella yn eu chwarae ac o safon uwch na’r band cychwynnol. Mae’r band yma wedi cystadlu ym Mhencampwriaeth Ieuenctid Prydain Fawr.

Mae’r band ieuenctid ar gyfer plant o 9 i 18 oed. Mae’n llwyddiannus iawn, ac mae wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau fel Pencampwriaethau Ewropeaidd ac wedi perfformio mewn lleoedd fel Neuadd Frenhinol Albert, Llundain a Neuadd Symffoni, Birmingham.

Mae’r band Hŷn hefyd yn llwyddiannus iawn yn cymryd rhan mewn cystadlaethau fel Pencampwriaeth Prydain Fawr yn Neuadd Frenhinol Albert.

Mae’r LSW yn fand sydd yn gadael i bobl hŷn sydd newydd ddechrau chwarae i gael chwarae mewn band pres.

Cystadlu

golygu

Mae'r bandiau yn cystadlu mewn llawer o gystadlaethau cenedlaethol. Dyma rai:

  • Pencampwriaethau Prydain Fawr
  • Rali Gogledd Cymru
  • Cystadlaethau Adloniant
  • Pencampwriaethau Ewropeaidd

Perthynas â Norwy

golygu

Mae gan y band berthynas agos gyda sawl band yn Norwy. Mae hynny wedi arwain at sawl chwaraewr ac arweinydd o'r ddwy wlad yn teithio o'r un wlad i'r llall i chwarae ac arwain. Yn 2015 aeth y Band Ieuenctid i Stavanger, ac yn 2017 teithiodd yr LSW i gystadlu yng nghystadleuaeth Gubbiaden.

Yr Arweinwyr

golygu
  • Band Cychwynnol - Fred Evans
  • Band Canolraddol - Bethan Evans
  • Band Ieuenctid - Hefin Evans
  • Band Hŷn - Scott Robert-Lloyd
  • LSW - Fred Evans

Dolenni allanol

golygu

Gwefan swyddogol

Youtube; [1]