Band roc seicedelig o Benmachno, Bwrdeisdref Sirol Conwy, a greuwyd yn 2010 oedd Sen Segur[1]. Prif aelodau'r band oedd George (y basydd), Ben (y gitarydd a'r prif leisydd), a Gethin (y drymiwr). Ymunodd Dafydd Evans (gitarydd ac allweddau) â'r band ar ôl rhyddhau ei EP gyntaf o'r enw Pen Rhydd. Wedyn ymunodd Alex Morrison o'r band Memory Clinic â Sen Segur i deithio dros Haf 2014, yr haf olaf i'r fand deithio.

Diwrnod ar ôl rhyddau ei albwm cyntaf wnaeth Sen Segur roi neges ar Facebook i gyhoeddi fod y band wedi gorffen.

Disgograffi golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Facebook. Adalwyd ar 02 Mai 2012.