Seollal
Diwrnod a dathliad blwyddyn newydd yng nghalendr y lleuad yng Nghorea yw Seollal (Hangul:설날). Yn ogystal â Seollal ei hun, mae'r diwrnod blaenorol a'r diwrnod canlynol hefyd yn wyliau cyhoeddus. Seollal yw un o brif gwyliau De Corea a Gogledd Corea ac mae'n achlysur teuluol pwysig.
Yr ail leuad newydd ar ôl Alban Arthan sy'n nodi dechrau'r flwyddyn fel arfer ac mae'n disgyn rhwng canol mis Ionawr a mis Chwefror. Pan fo'r flwyddyn lleuad gynt yn un naid ac yn cynnwys mis ychwanegol, mae Seollal ar y trydydd lleuad newydd ar ôl Alban Arthan.
Arferion
golyguMae'n draddodiadol i deulu estynedig ymgynnull yng nghartref dyn hyna'r teulu oni bai bod 'nain' yn fyw a gyda chartref addas. Mae merched priod yn mynd at deulu ei gŵr. Mae demograffeg De Corea'n golygu mai i ddinasoedd ac ardaloedd gwledig y tu allan i'r brif ddinas, Seoul, mae'r rhan fwyaf yn teithio. Mae trafnidiaeth cyhoeddus a ffyrdd sy'n cysylltu gwahanol rhannau o'r wlad yn brysur dros ben wrth yr adeg yma gyda phobl yn teithio i'w cartref teuluol ac yna yn ôl adref. Gall deithiau mewn car gymryd mwy na phedwar gwaith yr amser arferol.[1]
Prif arfer Seollal yw charye, sef cynnig gwledd o fwyd a diod i hynafiaid y teulu ac ymgrymu iddynt.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Korea Travel Highlights: Seollal. Korea Tourism Organization. Adalwyd ar 31 Ionawr 2014.