Alban Arthan
Dyddiad ac amser (UTC) heuldroadau a chyhydnosau | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
blwyddyn | Cyhydnos Mawrth Alban Eilir |
Heuldro Mehefin Alban Hefin |
Cyhydnos Medi Alban Elfed |
Heuldro Rhagfyr Alban Arthan | ||||
dydd | amser | dydd | amser | dydd | amser | dydd | amser | |
2016 | 20 | 04.30 | 20 | 22.34 | 22 | 14.21 | 21 | 10.44 |
2017 | 20 | 10.28 | 21 | 04.24 | 22 | 20.02 | 21 | 16.28 |
2018 | 20 | 16.15 | 21 | 10.07 | 23 | 01.54 | 21 | 22.22 |
2019 | 20 | 21.58 | 21 | 15.54 | 23 | 07.50 | 22 | 04.19 |
2020 | 20 | 03.49 | 20 | 21.43 | 22 | 13.30 | 21 | 10.02 |
2021 | 20 | 09.37 | 21 | 03.32 | 22 | 19.21 | 21 | 15.59 |
2022 | 20 | 15.33 | 21 | 09.13 | 23 | 01.03 | 24 | 21.48 |
2023 | 20 | 21.24 | 21 | 14.57 | 23 | 06.49 | 22 | 03.27 |
2024 | 20 | 03.06 | 20 | 20.50 | 22 | 12.43 | 21 | 09.20 |
2025 | 20 | 09.01 | 21 | 02.42 | 22 | 18.19 | 21 | 15.03 |
Mae Alban Arthan neu heuldro'r gaeaf yn digwydd rhwng y 19eg a'r 23ain o fis Rhagfyr, ond fel rheol ar y 21ain, sef y dydd byrraf o'r flwyddyn ('byrddydd gaeaf').[1] Dyma un o wyliau pwysicaf calendr y Celtiaid a sawl diwylliant arall o gwmpas y byd.
Iolo Morganwg a fathodd y gair 'alban' (a'r term 'Alban Arthan') ar ddiwedd y 18c i ddynodi un o'r pedwar chwarter mewn blwyddyn. Yr enw Cymraeg Canol am yr ŵyl oedd Calan Nadolig. Dyma gyfnod o wledda mawr yn y llys a thai'r bonedd ac un o wyliau pwysicaf beirdd Cymru'r Oesoedd Canol. Yr enw Saesneg traddodiadol yw Yule a cheir enwau cytras yn yr ieithoedd Germanaidd eraill.
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ www.geiriadur.ac.uk; Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC); adalwyd 21 Rhagfyr 2018.