Sequoyah
Un o enwau mawrion yn hanes pobl frodorol America ac ieithyddiaeth oedd Sequoyah (Saesneg: George Gist neu George Guess (c. 1770 — Awst 1843). Creodd Sequoyah orgraff (system o wyddor) i'r iaith Cherokee, er iddo fod yn anllythrennog ei hun pan gychwynodd ar y gwaith.
Sequoyah | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | c. 1770 ![]() Tuskegee ![]() |
Bu farw | Awst 1843 ![]() Municipality of Zaragoza ![]() |
Man preswyl | Alabama, Pope County, Fort Smith, Mecsico ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Galwedigaeth | silversmith, dyfeisiwr, ieithydd ![]() |
Tad | Nathaniel Gist ![]() |
Mae'r ffaith fod heliwr a chrefftwr anllythrennog yn gallu cyflawni tasg a ystyrir ond yn faes ieithyddion arbenigol yn cael ei ystyried fel un o gampau deallusol mwyaf trawiadol a gyflawnwyd erioed.[1]
Yr wyddor Cherokee
golyguDaeth Sequoyah i'r casgliad mai'r gallu i ysgrifennu a darllen oedd yr allwedd i rym pobl wynion dros frodorion America a oedd yn methu ysgrifennu neu ddarllen yn eu hieithoedd eu hunain.
Ym 1809 aeth ati i greu wyddor i'r iaith Cherokee. Wedi 12 mlynedd o waith, yn 1821, cyhoeddodd ei waith.
Mabwysiadwyd yr wyddor gan y bobl Cherokee ym 1825. Yn fuan wedyn, cyhoeddwyd llyfrau a phapurau newydd yn yr iaith Cherokee gyda’i wyddor ef. Cenhadwr o Gymro o'r enw Evan Jones gyfieithodd y Beibl i'r iaith Cherokee gan ddefnyddio’r wyddor hon.
Cododd lefel llythrennydd y bobl Cherokee yn uwch na'r mewnfudwyr o dras Ewropeaidd o’u hamgylch. Defnyddir yr wyddor hyd heddiw heb ei newid.[2]
Bu cryn sylw i'r wyddor Cherokedd a chyrhaeddodd newyddion amdani'n bell.
Bu’n ysbrydoliaeth i nifer o bobloedd eraill i fynd ati i ddatblygu llythrennedd yn eu hieithoedd hefyd.[3]
Taith olaf Sequoyah
golyguBreuddwydiodd Sequoyah o weld y Genedl Cherokee yn unedig undwaith eto, wedi iddynt gael eu trechu a rhoi ar chwâl wrth i bobl gwynion cipio eu tiroedd.
Ym 1842 dechreuodd Sequoya daith i chwilio am bobloedd Cherokee a oedd wedi ffoi'r holl ffordd i Mecsico a’u perswadio i ddychwelyd i’w hen gynefin yn yr Unol Daleithiau.
Bu farw ar y daith a chredir iddo gael ei gladdu wrth dref Zaragoza ger ffin Mecsico-Texas.
Coeden Sequoyah
golyguDywedir i’r goeden Sequohah (Lladin: Sequoiadendron giganteum) - goeden fwyaf America - gael ei enwi i’w anrhydeddu.[4]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Kenneth Katzner, The Languages of the World: "That an unlettered hunter and craftsman could complete a task now undertaken only by highly trained linguists must surely rank as one of the most impressive intellectual feats achieved by a single man."
- ↑ John Noble Wilford, "Carvings From Cherokee Script's Dawn", New York Times, 22 Mehefin 2009
- ↑ Peter Unseth, "The international impact of Sequoyah’s Cherokee syllabary", Written Language and Literacy 19.1: 75-93.
- ↑ Gary D. Lowe, "Endlicher's Sequence: The Naming of the Genus Sequoia", Fremontia: Journal of the California Native Plant Society 40 (2012): 27. Dywed Whitney: "The genus was named in honor of Sequoia* or Sequoyah, a Cherokee Indian."