Evan Jones (cenhadwr)
Gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ymgyrchydd hawliau ac ieithydd oedd Evan Jones (14 Mai, 1788 – 18 Awst, 1872)
Gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ymgyrchydd hawliau ac ieithydd oedd Evan Jones (14 Mai, 1788 – 18 Awst, 1872).
Evan Jones | |
---|---|
Ganwyd | 14 Mai 1788 Cymru |
Bu farw | 18 Awst 1872 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cenhadwr |
- Am bobl eraill o'r un enw gweler Evan Jones (gwahaniaethu).
Cafodd ei eni yn sir Frycheiniog (Powys). Symudodd i Lundain ar ôl priodi, ac yna ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn 1821, lle treuliodd 50 mlynedd fel cenhadwr ymysg y Cherokee. Bu'n byw yn eu mysg, yn ymgyrchu'n wleidyddol ar eu rhan a bu hefyd yn weinidog iddynt, gan gyfieithu'r Beibl i'r iaith Cherokee a chyhoeddi papurau newydd yn yr iaith. Bu Evan Jones, ac yn nes ymlaen gyda'i fab John, yn gyfrifol am droi mwy o Indiaid America at Gristnogaeth nag unrhyw genhadon Protestannaidd eraill yn America.
Cyfeiriadau
golygu- Erthygl am Evan Jones Archifwyd 2010-07-20 yn y Peiriant Wayback ar Encyclopedia of Oklahoma History & Culture. (Saesneg)
- William G. McLoughlin, Champions of the Cherokees: Evan and John B. Jones (Princeton, NJ: Princeton University Press, 1990)