Golosg
Gwaddod carbon du ac ysgafn sy'n cael ei gynhyrchu trwy dynnu ac elfennau anweddol eraill o ddeunyddiau anifeiliaid a phlanhigion yw golosg. Mae nifer o enwau eraill Cymraeg iddo, yn cynnwys dylosg, mallwydd, marworlo, coedlo, llosglo, cols, sercol a siarcol.[1] Fel arfer, cynhyrchir golosg trwy pyrolysis araf - gwresogi pren neu ddeunyddiau organig eraill yn absenoldeb ocsigen. Gelwir y broses hon yn llosgi golosg. Mae'r golosg gorffenedig yn cynnwys carbon yn bennaf.
Y fantais o ddefnyddio golosg yn hytrach na llosgi coed yn unig yw'r ffaith nad yw'n cynnwys dŵr a chydrannau eraill. Mae hyn yn caniatáu i siarcol losgi i dymheredd uwch, gan ryddhau ychydig iawn o fwg (mae pren arferol yn rhoi llawer o stêm, anweddolion organig, a gronynnau carbon heb eu llosgi - huddygl - yn ei fwg).
Mae golosg wedi ei ddefnyddio ers y cyfnod cynharaf ar gyfer ystod eang o ddibenion, gan gynnwys celf a meddygaeth, ond ei ddefnydd pwysicaf o bell ffordd yw fel tanwydd metelegol. Golosg yw'r tanwydd traddodiadol mewn efail gof, a sefyllfaoedd eraill lle mae angen gwres dwys. Defnyddiwyd golosg yn hanesyddol hefyd fel ffynhonnell pigment du trwy ei falu. Yn y ffurf hon roedd golosg yn bwysig i fferyllfeydd cynnar ac roedd yn rhan gyfansoddol o fformiwlâu ar gyfer cymysgeddau fel powdr du. Oherwydd ei arwyneb uchel gellir defnyddio siarcol fel hidlydd, ac fel catalydd neu fel anweddydd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Geiriadur Prifysgol Cymru". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 21 Mai 2019.