Seyðabrævið
Y Seyðabrævið[1] yw'r ddogfen hynaf mewn bodolaeth o Ynysoedd Ffaröe. Mae Seyðabrævið yn golygu Llythyr y Defaid mewn Ffaroeg;. Yr enw Hen Norseg yw sauðabréfit. Gellir deall pwysigrwydd y Ddogfen sy'n ymwneud â defaid i'r bobl a'u hunaniaeth pan ystyrir mai ystyr yr enw Ynysoedd Ffaröe yw 'Ynysoedd y Defaid' mewn Ffaroeg.
Mae'r ddogfen yn Orchymyn Brenhinol a ddaeth i rym ar 28 Mehefin 1298 gan y Dug Haakon, a ddaeth, maes o law, yn Frenin Norwy. Mae'n delio gan mwyaf gyda chadw defaid ond mae hefyd yn delio gyda materion eraill a daeth i fod yn rywfath o gyfansoddiad gan dynnu'r rhan fwyaf o'r grymoedd gweinyddol oddi ar y 'Thing' (cynulliad lleol Ffaröe, a ddaeth, maes o law i fod y Løgting - senedd genedlaethol yr Ynysoedd) i'r brenin a'i gynrychiolwyr. Fe'i drafftiwyd ar gyngor Esgob Erlend yn Kirkjubøur a a Sigurd, Cyfreithiwr Shetland, roedd Haakon wedi ei ddanfon i Ynysoedd Ffaröe i ystyried gwendidau yn y gyfraith amaeth.[2]
Yn wahanol i'r Saga Færeyinga sydd o Wlad yr Iâ, mae Llythyr y Defaid wedi ei hysgrifennu ar Ynysoedd Ffaröe. Mae felly yn rhoi gwell disgrifiad o gymdeithas Ffaroeg ar y pryd. Mae hefyd yn dangos y newidiadau cynnar roedd yr iaith Ffaroeg wedi dechrau datblygu wrth iddi ddatblygu oddi ar Hen Norseg.
Mae'r llythyr wedi ei chadw mewn dau gopi; un yn Archifau Cenedlaethol Ynysoedd y Ffaröe yn Tórshavn[3] ac un yn y llyfrgell ym Mhrifysgol Lund, yn Sweden.
Yr 16 pwynt Cyfreithiol a nodir yn Llythyr y Defaid
golygu- Parthed sut mae angen prawf o berchnogaeth cyn lladd defaid
- Parthed trespasu ar dir eraill
- Parthed pori defaid ar dir dyn arall.
- Parthed cymysgu defaid gwyllt - rhan I
- Parthed marcio defaid (clust). Fe'i gwneir yn glir iawn pe bai'r marc cyntaf yn cael ei newid yna fe'i hystyrir yn lladrad
- Parthed cŵn defaid sy'n brathu a difrod defaid, rheolau ar gyfer ad-dalu a'r nifer o ddefaid a ganiateir ar dir pori
- parthed sut caiff dyddiadau cau yn cael eu trin pan fydd awdurdodau'n rhoi rhybudd
- Parthed dyletswydd cyflwyno adroddiad pan fydd defaid yn troseddu ar dir dieithriaid
- Parthed dofi defaid gwyllt - rhan II
- Parthed rhentu tir
- Parthed ymwelwyr diangen ac hawliau'r tlawd
- Parthed tystiolaeth
- Parthed talu am ymwelwyr sy'n aros
- Parthed cartrefi a thenantiaid
- Parthed darganfod morfilod a'r gyfran o gig a bloneg
- Parthed broc-môr
Drych o'r Gymdeithas Ganoloesol
golyguMae'r Llythyr yn rhoi cipolwg ar gymdeithas ganoloesol Ynysoedd Ffaroöe. Ar frig y gymdeithas, safai'r Landdrottar, y tirfeddianwyr (ffermwyr mawr). Fe allent roi rhannau o'u tir i'r leigulendingar, y tenantiaid. Yna, roedd yn rhaid i'r tenantiaid ddosrannu cyfran benodol o'u hincwm, y landskyld, i'r tirfeddianwyr. Pe na bai tenant yn gallu fforddio'r landskyld, gallai'r tirfeddiannwr atafaelu yn ei gynhaeaf cyfan.
Roedd yna hefyd ddosbarth o'r di-eiddo. Ymhlith y rhain roedd llafurwyr, merched/merched di-briod??, a chardotwyr. Gwaherddwyd iddynt adeiladu tŷ oni bai bod ganddynt o leiaf digon o dir i gadw tri buwch arno. Fe'i gwaharddwyd hefyd i roi i rhywun tir nad oedd yn ddigon i'r person gynnal ei hun. Yn ôl y Llythyr y Defaid, dim ond y dynion hynny a allai ofalu eu hunain a'u teuluoedda ganiateir i adeiladu tŷ.
Mae'r Llythyr yn adlewyrchu cymdeithas wedi'i nodweddu gan anghydraddoldeb cymdeithasol a phroblemau mawr. Mae'r angen i greu deddfau sy'n rheoli'r dosbarthiadau is a diogelu hawliau'r cyfoethog yn arwydd bod y boblogaeth tua 1300 wedi tyfu y tu hwnt i'r lefelau y gallai cymdeithas amaethyddol ei chefnogi. Mae yna arwyddion o wrthryfel ac aflonyddwch yn y cyfnod hwn, yn enwedig yn erbyn grym yr Eglwys. Ymddengys mai'r anghydfod hwn oedd y rheswm dros dynnu'n ôl Esgob Erlend o esgobaeth Ynysoedd Ffaröe.
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ W. Poulsen, Jóan Hendrik (1971). Seyðabrævið. Copenhagen, Denmark.
- ↑ "From the Vikings to the Reformation", G. V. C. Young 1979, p. 52.
- ↑ "Faroese National Archives". Faroese National Archives. Søvn Landsins.