Sgampi
Pryd o fwyd môr sy'n cynnwys paratoadau o gramenogion bach yw sgampi. Mae dulliau paratoi sgampi yn amrywio o wlad i wlad ac o ranbarth i ranbarth. Ym Mhrydain fel arfer mae sgampi yn cael eu rhoi ar y bwrdd heb eu cregyn, wedi'u gorchuddio â chytew neu friwsion bara ac wedi'u ffrio'n ddwfn. Yn wreiddiol (ac yn gywir) y cramenogion a ddefnyddiwyd oedd cimychiaid Norwy (Nephrops norvegicus; Eidaleg: scampi; Ffrangeg: langoustine; Saesneg: Dublin Bay prawns), ond yn aml mae mathau o gorgimychiaid neu hyd yn oed bysgod (yn enwedig maelgi) yn cael eu rhoi yn eu lle.
Math | bwyd, bwyd môr, platiad o orgimwch |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yng ngwledydd Prydain diffinnir y gair scampi yn gyfreithiol fel Nephrops norvegicus yn unig, a dylai unrhyw saig â label sgampi gynnwys rhywfaint o'r rhywogaeth honno, ond mewn gwledydd eraill ystyrir sawl math o gimwch yn scampi.
Daeth sgampi yn boblogaidd yn y 1960au diolch i'r cwmni o'r Alban, Young's Seafood, ar ôl i'w pysgotwyr ofyn i gael gwneud rhywbeth efo'r langoustines roeddent yn eu dal ym mhysgotfeydd Lerwick, Lossiemouth ac Annan yn yr Alban. Cafodd eu cogydd datblygu cynnyrch, oedd yn Eidalwr, y syniad o greu "Sgampi mewn Basged", a ddaeth yn un o'r prif bwydydd tafarn yn y 1960au a'r 1970au.
-
Cimwch Norwy (sgampo) yn y dŵr
-
Sgampi a tsips mewn tafarn yn Llundain