Dyfais sy'n sganio ffotograffau, dogfennau, testun printiedig, llawysgrifen ayb yw'r sganiwr. Ceir gwahanol fathau gan gynnwys y sganiwr a gysylltir i'r cyfrifiadur yn y cartef a'r swyddfa, y sganiwr bar-godau, sganiwr CT ayb. Mae sganwyr ar gael y tu allan i faes technoleg gwybodaeth hefyd, gan gynnwys sganwyr defaid, ond sôn am sganiwr TG mae'r erthygl hon. Ceir sganwyr a roddir ar fwrdd mewn swyddfeydd, lle rhoddir y ddogfen ar ffenestr wydr i'w sganio. Ceir hefyd sganwyr llaw, a ellir ei ddal yn hwylus yng nghledr y llaw, a'i dynnu dros y ddogfen sydd ar ei orwedd ar fwrdd neu arwyneb gwastad a cheir hefyd sganwyr 3D a ddefnyddir mewn diwydiant, peirianneg, hamdden a chymwysiadau eraill.

Ffotograff yn cael ei sganio i gyfrifiadur mewn swydfa papur newydd yn y 1990au cynnar.

Fel un o 'berifferolion' (neu ddyfeisiadau atodol) y cyfrifiadur, weithiau, fe'i cyfunir gyda'r argraffydd i greu dyfais ddeublyg, gyda'r sganiwr ar y top.

Mae'r sganiwr cyfoes yn olynu dyfeisiadau telephotograffi cynnar. Y ddyfais gyntaf o'i bath oedd y 'pantelegrafo' gair Eidaleg a fathwyd gan y dyfeisydd Eidalaidd Giovanni Caselli yn y 1860au; fe'i cynhyrchwyd yn fasnachol yn y ddegawd honno. Defnyddiai electrofagnedau i yrru a syncroneiddio symudiadau sawl pendil mewn dwy fan: y fan lle eisteddai'r ddogfen i'w chopio a hefyd yn y fan lle argraffwyd y copi. Gallai drosglwyddo llawysgrifen, llofnodion, neu luniau a wnaed â llaw hyd at 150 × 100 mm.

Erbyn 1913 roedd Édouard Belin wedi dyfeisio sganiwr a ddefnyddiai ffotogell, gan drosglwyddo'r wybodaeth dros linell ffôn arferol. Gelwid y rhain, drwy Ewrop yn ddyfeisiadau Belino adefnyddid hwy gan asiantaethau a chwmniau papur newydd i yrru copiau o luniau, yn enwedig lluniau newyddion y dydd. Yn y Belini, roedd drwm tro, ac un ffotosynhwyrydd, a droellai ar gyflymder o 60 neu 120 gwaith y funud. Roedden nhw'n danfon signal analog dros y linell ffôn i'r ddyfais derbyn a oedd yn ei dro'n argraffu'r llun ar bapur arbennig. Er mwyn copio ffotograff lliw, gwnaed hyn deirgwaith a ffiltryd y lliwiau'n goch, gwyrdd a glas.

Cyfeiriadau

golygu