Sgïo Alpaidd
(Ailgyfeiriwyd o Sgio Alpinaidd)
Mae Sgïo Alpaidd yn chwaraeon ble ceir sgïo i lawr bryn wedi'i orchuddio gydag eira - a hynny gydag esgidiau sydd wedi'u rhwymo'n sownd i'r sodlau. Dyma'r hyn sy'n ei wneud yn wahanol i bob math arall o sgïo e.e. sgïo mynydd, sgïo Nordig neu draws gwlad, naid sgïo a Telemark, ble defnyddir esgidiau sydd heb eu rhwymo'n sownd i'r sodlau.
![]() | |
Enghraifft o: | math o chwaraeon ![]() |
---|---|
Math | sgïo, chwaraeon olympaidd ![]() |
![]() |


Mae sgïo Alpaidd yn boblogaidd iawn ble bynnag y daw'r cyfuniad canlynol i'r canlynol: strwythur twristaidd cryf, eira a llethrau mynydd; mae hyn yn digwydd mewn rhanau o Ewrop, Gogledd America, Awstralia, yr Andes, Dwyrain Asia a Seland Newydd.