sglera, hefyd yn cael ei adnabod fel gwyn y llygad, yw'r haenen allanol amddiffynnol, ffibrog ac anhryloyw o'r llygad ddynol sy'n cynnwys colagen a pheth ffibr elastig.[1] Mewn bodau dynol, mae'r holl sglera yn wyn ac yn cyferbynnu gyda'r iris. Mewn mamaliaid eraill, fodd bynnag, mae'r rhan weladwy o'r sglera yn cyfateb i'r iris, felly nid yw'r gwyn fel arfer i'w weld. Yn natblygiad yr embryo, mae'r sglera yn deillio o'r gwrym naturiol.[2] Gyda phlant, mae'n deneuach ac yn dangos rhywfaint o'r pigment oddi tano, gan ymddangos ychydig yn las. Gyda henoed, mae cramen frasterog ar y sglera yn gwneud iddo ymddangos ychydig yn felyn. Gall sglera melyn hefyd fod yn symptom o'r clefyd melyn. Mewn rhai achosion difrifol a phrin o fethiant y arennau a'r afu, gall y sglera droi yn ddu. Gall lliw y croen hefyd ddylanwadu ar liw y sglera, o ganlyniad i liw melanin.

Sglera
Enghraifft o'r canlynolstrwythur anatomegol, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathfibrous tunic of eyeball, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan ollygad Edit this on Wikidata
Cysylltir gydacornbilen Edit this on Wikidata
Yn cynnwysscleral stroma, Schlemm's canal Edit this on Wikidata
Llygad ddynol gyda'r iris a'r sglera yn wyn bob ochr iddo

Yn y llygad ddynol mae'n eitha anghyffredin i gael iris sy'n ddigon bychan i'w gweld yn gyfan gwbl yn erbyn y sglera. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i un person weld i ba gyfeiriad mae person arall yn edrych, ac mae'r hypothesis llygaid cydweithiol yn awgrymu bod hyn wedi esblygu fel dull o gyfathrebu aneiriol.Mae'r gair sclera yn tarddu o'r gair Groeg skleros, sy'n golygu 'caled'.

Cyfeiriadau golygu

  1. Cassin, B. and Solomon, S. Dictionary of Eye Terminology. Gainesville, Florida: Triad Publishing Company, 1990.
  2. Hermann D. Schubert. Anatomy of the Orbit "Archived copy" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2008-10-08. Cyrchwyd 2008-05-19. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link)