Cornbilen
Rhan flaen dryloyw y llygad sy’n gorchuddio’r iris, cannwyll y llygad a’r siambr flaen ydy’r gornbilen. Mae’r gornbilen, fel y siambr flaen a’r lens, yn plygu golau ac yn darparu dau draean o nerth optegol cyfan y llygad. Mae’r gornbilen yn cyfrannu at y mwyafrif o nerth canolbwyntio’r llygad, ond sefydlog ydy’r ffocysu. Gan gymhwyso crymedd y lens, mireinir y ffocws yn ôl pellter y gwrthrych.
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | fibrous tunic of eyeball, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | human eye, llygad |
Cysylltir gyda | sglera, tear film |
Yn cynnwys | corneal epithelium, Bowman's membrane, corneal stroma, Descemet's membrane, corneal endothelium |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Strwythur
golyguMae gan y gornbilen terfynau nerfau anfyelinog sy'n synhwyro cyffwrdd, tymheredd a chemegion. Mae cyffwrdd â'r gornbilen yn peri atgyrch anwirfoddol i gau'r amrant. Oherwydd bod tryloywder yn hollbwysig, nid oes gan y gornbilen bibellau gwaed. Yn eu lle, mae ocsigen yn hydoddi mewn dagrau ac yn tryledu ledled y gornbilen i'w chadw'n iach.[1]
Yn yr un modd mae maetholion yn cael eu cludo trwy dryledu o'r hylif dagrau trwy'r arwyneb allanol. Yn y llygad dynol, mae gan y gornbilen diamedr o oddeutu 11.5mm a thrwch 0.5-0.6mm yn y canol a 0.6-0.8mm ar y cyrion. Tryloywder, diffyg pibellau gwaed, presenoldeb celloedd imiwnedd preswyl anaeddfed, a braint imiwnolegol sy'n neilltuo'r gornbilen fel meinwe arbennig iawn.
Albumin yw'r protein hydawdd mwyaf helaeth yn y gornbilen famolaidd.[2]
Mewn llysywod pendoll, estyniad o'r sglera yn unig ydy'r gornbilen ac mae hi ar wahân o'r croen uwchlaw. Mewn fertebratau mwy datblygedig, mae hi bob amser yn ymdoddi â'r croen i ffurfio strwythur unigol, er ei bod hi'n cynnwys haenau amryfal. Mewn pysgod, a fertebratau dyfrol yn gyffredinol, dyw'r gornbilen ddim yn ffocysu golau o gwbl gan fod ganddi hi bron yr un indecs plygiant â dŵr.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.aclm.org.uk/index.php?url=04_FAQs/default.php&Q=3
- ↑ Nees, David W.; Fariss, Robert N.; Piatigorsky, Joram (2003). "Serum Albumin in Mammalian Cornea: Implications for Clinical Application". Investigative Ophthalmology & Visual Science. 44 (8): 3339–45. PMID 12882779. doi:10.1167/iovs.02-1161.
- ↑ Romer, Alfred Sherwood; Parsons, Thomas S. (1977). The Vertebrate Body. Philadelphia: Holt-Saunders International. pp. 461–2. ISBN 0-03-910284-X.