Mamal
Mamaliaid | |
---|---|
![]() | |
Llewod (Panthera leo) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Is-ffylwm: | Vertebrata |
Dosbarth: | Linnaeus, 1758 |
Urddau | |
|
Dosbarth o anifeiliaid asgwrn-cefn yw'r mamaliaid (hefyd: mamolion) ac maent yn anifeiliaid gwaed cynnes. Mae chwarennau tethol gan yr anifeiliaid hyn, er mwyn rhoi llaeth i'w rhai bach. Mae angen llawer o fwyd arnynt er mwyn cadw'n gynnes, mwy nag anifeiliaid gwaed oer. Mae gan y rhan fwyaf ohonynt flew neu ffwr ar eu cyrff i gadw'n gynnes, ond does dim ffwr gan famaliaid y môr, braster sydd yn eu cadw nhw'n gynnes. Mae'r hwyatbig a'r echidna yn dodwy wyau, mae mamaliaid eraill yn cael eu geni'n fyw.
Mae tua 4000 o wahanol fathau o famaliaid. Gelwir y rhai sydd yn bwyta anifeiliaid eraill yn gigysyddion, a'r rhai sydd yn bwyta planhigion yn llysysyddion.
CymruGolygu
CynhanesGolygu
Ym Mro Morgannwg y darganuwyd y dystiolaeth gynharaf o famaliaid yng Nghymru, i'r de o Ben-y-bont ar Ogwr mewn chwareli glo. Yma, yn 1947 y darganfuwyd olion Morganucodon watsoni, anifail bychan tebyg i'r llyg, a oedd yn byw yno tua 200,000 o flynyddoedd yn ôl. Ceir tystiolaeth o esgyrn, ffosiliau a chofnodion ysgrifenedig (o amser y Rhufeiniaid sy'n taflu golau ar famaliaid sydd wedi hen ddiflannu, rhai cyn hyned a 225,000 CP. Canfuwyd esgyrn llawer o famaliaid anghyffredin heddiw mewn ogofâu yng Ngogledd Cymru hefyd e.e. Ogof Bontnewydd, Cefnmeiriadog, Sir Ddinbych. Ymlith y mamaliaid yn Hen Oes y Cerrig y mae: y rhinoseros blewog, y mamoth, yr udfil, ceffyl, blaidda bual. Mewn cyfnodau cynhesach (cyn y rhewlifau), roedd yma hefyd y llew, y rhinoseos trwyngul a'r eliffant ysgithrsyth.
Erbyn Oes Newydd y Cerrig, dylanwadodd ffermio ar fywyd mamaliaid a daeth cŵn, geifr, moch a'r ceffyl yn anifeiliaid domestig. Geifr oedd y mwyaf niferus yng Nghymru - tan ddiwedd yr Oesoedd Canol. Er mwyn sicrhau tir pori, cliriwyd llawer o goedydd Cymru - a newidiodd hyn llawer ar yr amgylchedd e.e. o'r boncyffion y daeth y rhan fwyaf o fawnogydd Cymru. Roedd hyn yn dinistrio llawer o gynefinoedd adar a mamaliaid fel eirth, bleiddiaid a cheirw. Felly wrth i'r tir amaethyddol gynyddu, lleihaodd y tir gwyllt.
Llenyddiaeth a chelfGolygu
Yn yr hwiangerdd Pais Dinogad o'r 7g, crybwyllir nifer o famaiaid gan gynnwys y bele coed, y baedd gwyllt, y llwynog, y gath wyllt a'r iwrch. Ceir addurniadau o famaliaid yn aml iawn mewn hen lawysgrifau, er mwyn dod a fflach o liw i'r gwaith, a cheir cyfeiriadau at famaliaid yn britho'r Mabinogi ac oddi fewn i gyfreithiau Hywel Dda.[1] Ceir hefyd enwau lleoedd ac afonydd yn cynnwys cyfeiriad at famal arbennig.
Rhestr mamaliaidGolygu
- Afanc neu llostlydan (Beaver: Castor fiber)
- Alpafr (Ibex: Capra ibex)
- Arth (Bear: Ursus)
- Asyn (Donkey, ass: Equus asinus)
- Baedd gwyllt (Wild boar: Sus scrofa (ferus))
- Bele (Marten: Martes)
- Blaidd (Wolf: Canis lupus)
- Bochdew (Hamster: Mesocricetus neu Cricetus)
- Broch neu mochyn daear (Badger: Meles meles)
- Bronwen neu gwenci (Weasel: Mustela nivalis)
- Bual (American bison: Bos bison)
- Buwch (Cow: Bos taurus)
- Byfflo (Buffalo: Bos bubalus)
- Byfflo dŵr (Water buffalo: Bubalus arnee)
- Cadno neu llwynog (Fox: Vulpes vulpes)
- Camel (Camel)
- Camel rhedeg (Dromedary: Camelus dromedarius)
- Carlwm (Stoat, ermine: Mustela erminea)
- Carw (Deer: Cervus)
- Carw coch (Red deer: Cervus elaphus)
- Cath (Cat: Felis silvestris (domesticus))
- Cath wyllt (Wildcat: Felis silvestris)
- Ceffyl (Horse: Equus caballus)
- Ci (Dog: Canis lupus (familiaris))
- Cwningen (Rabbit: Oryctolagus cuniculus)
- Dafad (Sheep: Ovis aries aries)
- Danas (Fallow deer: Cervus dama)
- Dolffin, -iaid (Dolphin: Delphinidae)
- Dolffin trwyn potel (Bottlenose dolphin: Tursiops truncatus)
- Draenog (Hedgehog: Erinaceus europaeus)
- Dwrgi neu dyfrgi (Otter: Lutra lutra)
- Dyfrfarch (Hippopotamus)
- Eliffant (Elephant: Elephas maximus neu Loxodonta africana)
- Ffured (Ferret: Mustela putorius furo)
- Ffwlbart (Polecat: Mustela putorius)
- Gafr (Goat: Capra hircus)
- Gafrewig (Chamois: Rupicapra rupicapra)
- Gwahadden neu twrch daear (Mole: Talpa europaea)
- Gwenci neu Bronwen (Weasel: Mustela nivalis)
- Gwiwer (Squirrel: Sciuridae)
- Gwiwer goch (Red squirrel: Sciurus vulgaris)
- Iwrch (Roe deer: Capreolus capreolus)
- Llew (Lion: Panthera leo)
- Llwynog neu Cadno (Fox: Vulpes vulpes)
- Lyncs (Lynx: Lynx lynx)
- Llostlydan neu afanc (Beaver: Castor fiber)
- Llamhidydd (llamidyddion) (Porpoise: Phocaena)
- Llamhidydd harbwr (Harbour porpoise: Phocaena phocaena)
- Llyg (Shrew: Sorex)
- Llygoden (Mouse: Mus)
- Llygoden fawr (Rat: Rattus)
- Llygoden bengron (Vole: Arvicolinae)
- Llygoden fwsg neu Mwsglygoden (Muskrat: Ondatra zibethicus)
- Marmot neu Twrlla (Marmot: Marmota marmota)
- Mochyn (Pig: Sus scrofa (domesticus))
- Mochyn cwta (Guinea pig: Cavia porcellus)
- Mochyn daear neu broch (Badger: Meles meles)
- Morfil, -od (Whales: Cetacea)
- Morfil balîn (Baleen whale: Mysticeti)
- Morfil cefngrwm (Humpback whale: Megaptera novaeangliae)
- Morfil danheddog (Toothed whale: Odontoceti)
- Morfil glas (Blue whale: Balaenoptera musculus)
- Morfuwch (Manatee: Trichechidae)
- Morlo (Seal: Pinnipedia)
- Morlo Llwyd (Grey Seal: Halichoerus grypus)
- Mwfflon (Mouflon: Ovis aries musimon)
- Mwsglygoden neu llygoden fwsg (Muskrat: Ondatra zibethicus)
- Ocapi (Okapi: Okapia johnstoni)
- Pathew (Dormouse: Glis glis, Muscardinus avellanarius, Dryomys)
- Tsimpansî (Chimpanzee: Pan)
- Twrch daear neu Gwahadden (Mole: Talpa europaea)
- Twrlla neu marmot (Marmot: Marmota marmota)
- Udfil (Hyena)
- Ych gwyllt (European bison, wisent: Bos bonasus)
- Ysgyfarnog (Hare: Lepus europaeus)
- Ystlum (Bat: Chiroptera)
- Ystlum du neu Ystlum Barbastelle (Barbastelle bat: Barbastella barbastellus)
- Ystlum Bechstein (Bechstein's bat: Myotis bechsteinii)
- Ystlum pedol lleiaf (Lesser horseshoe bat: Rhinolophus hipposideros)
- Ystlum pedol mwyaf (Greater horseshoe bat: Rhinolophus ferrumequinum)
CyfeiriadauGolygu
- Wilson, D. E., and Reeder, D. M. (goln): Mammal Species of the World, 3ydd argraffiad, Johns Hopkins University Press.
- ↑ Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; Cyhoeddwyd 2008; tud 597