Albanwyr
cenedl cynhenid yr Alban
(Ailgyfeiriad o Sgotiaid)
Pobl o'r Alban neu sydd o dras Albanaidd yw'r Albanwyr neu'r Sgotiaid.
Cyfanswm poblogaeth | |
---|---|
30–40 miliwn | |
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol | |
Yr Alban: 4 459 071Yr Unol Daleithiau: 5 752 571Canada: 4 157 210Lloegr: 795 000Awstralia: 540 046 | |
Ieithoedd | |
Gaeleg yr Alban, Sgoteg, Saesneg | |
Crefydd | |
Cristnogaeth, arall, dim | |
Grwpiau ethnig perthynol | |
Gwyddelod, Manawyr, Saeson, Cernywiaid, Cymry, Llydawyr, Islandwyr, Ffarowyr |
Y Sgotiaid gwreiddiol
golyguYn wreiddiol cyfyngid y defnydd o'r enw Sgotiaid i'r Gwyddelod a ddaeth drosodd o Iwerddon i ymgartrefu yng nghanolbarth a gorllewin yr Alban. Y Scotti oedd eu henw a siaradent Wyddeleg. Eu cymdogion oedd y Brythoniaid i'r de a'r Pictiaid i'r gogledd a'r dwyrain. Dim ond tua'r flwyddyn 850 y cawsant eu huno'n un deyrnas gan y brenin Kenneth mac Alpin. Rywbryd ar ôl hynny y dechreuodd yr arfer o alw pobl y wlad yn Albanwyr neu 'Scots'.