Ysguthan

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Sguthan)
Ysguthan
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Columbiformes
Teulu: Columbidae
Genws: Columba
Rhywogaeth: C. palumbus
Enw deuenwol
Columba palumbus
Linnaeus, 1758
Ŵy Columba palumbus

Mae'r ysguthan (ll. Ysguthanod; Lladin: Columba palumbus) yn aelod o deulu'r colomennod (y Columbidae). Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gorllewin Asia. Yn y rhannau lle mae'r gaeafau yn arbennig o oer, megis gogledd a dwyrain Ewrop, mae'r sguthan, fel y'i gelwir ar lafar, yn aderyn mudol, yn symud tua'r de neu tua'r gorllewin. Yng ngorllewin a de Ewrop mae'n aros trwy'r flwyddyn.

Mae'r sguthan yn aderyn mwy na'r aelodau eraill o deulu'r colomennod sy'n gyffredin yn Ewrop, er enghraifft y Golomen wyllt, sydd tua 41 cm o hyd. Gellir ei hadnabod hefyd wrth y darn mawr gwyn ar y gwegil a'r plu gwyn ar yr adenydd. Mae'r gweddill o'r plu yn llwyd.

Mae'n nythu mewn coed, yn dodwy dau wy gwyn. Tu allan i'r tymor nythu mae'n ymgasglu yn heidiau, weithiau gannoedd neu hyd yn oed filoedd gyda'i gilydd. Mae eu bwyd yn wahanol fathau o blanhigion, yn enwedig grawn ac egin ieuanc, ac oherwydd hyn maent yn aml yn cael eu saethu gan ffermwyr.

Ffeithiau diddorol

golygu

Mae'r adar ifanc fel arfer yn hedfan ar ôl 33-34 diwrnod ac mae'r gynffon yn mesur tua 13.8 i 15 cm. [Llysieuyn|Llysiau]] yw rhan fwyaf o'u deiat.

Cyfeiriadau

golygu