Colomen wyllt
rhywogaeth o adar
Colomen Wyllt | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Columbiformes |
Teulu: | Columbidae |
Genws: | Columba |
Rhywogaeth: | C. oenas |
Enw deuenwol | |
Columba oenas Linnaeus, 1758 |
Aderyn o deulu'r colomennod, Columbidae, yw'r Golomen Wyllt (Columba oenas). Mae'n byw mewn coetir a ffermdir ar draws Ewrop ac yng ngogledd-orllewin Affrica, gorllewin Siberia a rhannau o dde-orllewin a chanolbarth Asia. Mae'n dodwy un neu ddau ŵy gwyn mewn twll mewn coeden, adeilad neu glogwyn.[1] Mae'n bwydo ar hadau, dail, blagur a blodau gan amlaf.[1]
Mae'n 32–34 cm o hyd ac mae'n pwyso 250-350 g.[1] Mae ganddi blu llwydlas gyda darn gwyrdd gloyw ar y gwddf. Yn yr awyr, mae gan ei hadenydd ymylon du ac mae darn llwydlas golau yng nghanol yr adenydd. Mae'r Golomen Wyllt yn debyg i'r Ysguthan ond yn llai a does ganddi ddim darnau gwyn ar yr adenydd a gwddf.
Cyfeiriadau
golygu Safonwyd yr enw Colomen wyllt gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Internet Bird Collection: Stock Dove (Columba oenas) Archifwyd 2013-09-21 yn y Peiriant Wayback