Stryt y Syfwr, Wrecsam
Stryd fasnachol yng nghanol dinas Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Stryt y Syfwr (“Queen Street”).
Math | stryd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Wrecsam |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.046301°N 2.993528°W |
Lleoliad
golyguMae Stryt y Syfwr yn rhedeg mewn cyfeiriad gogleddol yng nghanol Wrecsam o'r gyffordd gyda Stryt Yr Hôb i'r Sgwâr y Frenhines.
Hanes
golyguGyda Stryt yr Hôb a Stryt y Rhaglaw, mae Stryt y Syfwr yn barhad o’r patrwm strydoedd canoloesol yn lledaenu o’r ardal greiddiol o amgylch Eglwys Blwyf San Silyn.
Enw gwreiddiol y stryd oedd Receiver's Street, adlais o'r hen township Wrexham Regis (yn y gorffennol, roedd Wrecsam yn cael ei rhannu yn Wrexham Abbot, eiddo'r Eglwys, a Wrexham Regis, eiddo'r Goron). [1] Yn yr Oesoedd Canol hwyr, roedd y receiver yn gyfrifol am y rhan fwyaf o waith gweinyddol yr hen swyddogion Cymreig yn yr arglwyddiaeth Brwmffild a Iâl. Yn Gymraeg cafodd y gair 'receiver' ei newid yn 'syfwr'. Felly roedd yr enw Receiver's Street mewn dogfennau swyddogol sy'n dyddio o 1563 a 1620 wedi dod yn Stryt y Syffern a Sovarn Street erbyn 1699. [2]
Ar ddiwedd y 18fed ganrif, adeiladwyd ar Stryt y Syfwr marchnad 'Neuadd Jones' ar gyfer lliain a nwyddau ffansi. Yn 1904 adeiladwyd tafarndy’r Talbot fel tafarndy a siopau mewn lle amlwg ar gyffordd Stryt yr Hôb a Stryt y Syfwr. [3]
Disgrifiad
golyguMae rhan o'r Talbot, tafarndy gafodd ei adeiladu yn 1904 yn yr arddull neo-Duduraidd, yn estyn ar hyd Stryt y Syfwr, o'r gyffordd gyda Stryt yr Hôb (codwyd y tafarndy ar gornel y ddwy stryd). Rhwng y gyffordd gyda Stryt Henblas a Sgwâr y Frenhines, dim ond adeiladau modern sydd i'w gweld. Mae golygfa braf i fyny'r stryd tuag at yr Hen Lyfrgell. [4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Seal, Bobby (2015-06-18). "Abbot and Regis: A Tale of Two Townships". Psychogeographic Review (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-29.
- ↑ Palmer, Alfred Neobard (1910). A History of Ancient Tenures of Land in North Wales and the Marches. Published for the authors. tt. p. 107.CS1 maint: extra text (link)
- ↑ "Talbot Hotel Public House; 48 & 49 Hope Street, Wrexham - Coflein". Coflein. Cyrchwyd 29 Medi 2022.
- ↑ "Area assessment" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 29 Medi 2022.