Sgwrs:Arthur

Latest comment: 3 blynedd yn ôl by Gerian2 in topic Untitled


Untitled golygu

Fyddai gan rywun wrthwynebiad i mi symud yr erthygl i "Arthur"? Nid ydym yn rhoi "Y Brenin" neu "Y Frenhines" ac ati o flaen enw neb arall hyd y gwelaf fi; ac nid yw Arthur yn cael ei ddisgrifio yn benodol fel brenin yn y traddodiad Cymreig cynnar. Rhion 12:29, 7 Mawrth 2008 (UTC)Ateb

Rwy'n gweld fod yr erthygl wedi ei symud yn ôl i "Y Brenin Arthur" heb drafodaeth. Fyddai modd trafod pethau fel hyn ar dudalen sgwrs yr erthygl gyntaf os gwelwch yn dda? Rhion 12:05, 16 Awst 2009 (UTC)Ateb
Wedi darllen [golygiad: tystiolaeth yn awgrymu bod Arthur yn deillio i un Artúr mac Aodhán o Dál Riada (yr Alban cynnar)] dw i'n meddwl rhaid symud yr erthygl i "Arthur" neu "Tywysog Arthur". Diolch Rhion. -- Ryan, dysgwr o Gymraeg
Ydy, mae'n wahanol i'r rhan fwyaf o erthyglau sydd gennym ee 'Owain Glyn Dwr' ac nid 'Y Tywysog OG', 'Dafydd (brenin)' ac nid 'Y Brenin Dafydd'. Dw i ddim yn credu bod llawer o gyfeiriadau ato fel Tywysog, fodd bynnag, ond fe gytunwn gyda 'Arthur (brenin', gan ddilyn y drefn arferol ar cywici. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:51, 31 Gorffennaf 2018 (UTC)Ateb


"Y bwriad oedd y byddai Arthur yn teyrnasu fel y brenin Arthur II pan ddôi i'r orsedd." Mae hwn yn diddorol, oes cyfeirnod am hwn? Dwi methu ffeindio unrhywbeth fy hun.--Gerian2 (sgwrs) 12:52, 26 Hydref 2020 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Arthur".