Sgwrs:Baner Gagauzia

Sylw diweddaraf: 2 fis yn ôl gan Llygadebrill ym mhwnc Problemau

Problemau

golygu

Sori @Stefanik, dw i ddim yn deall y canlynol:

  • addurniadau melyn ar y gelod yn y cyflwr hwn
  • "Yn ôl chwedl Asena, achubwyd bachgen a oedd yr unig un i oroesi o lwyth a orchfygwyd gan flaidd hi. Yn y pen draw esgor ar efeilliaid, hanner dynol, hanner blaidd, a ddaeth yn hynafiaid y Gagauz"... o glicio ar y ffynhonnell rwyt ti'n cyfeirio ati, mae'n awgrymu mai achub y bachgen wnaeth y flaidd yn hytrach nag orchfygu neb!
  • "...symbol y wladwriaeth" - nid gwladwriaeth yw Gagauzia, ai symbol cenedlaethol? Symbol darpar-wladwriaeth? Symbol fel talaith? Neu un o symbolau gwladwriaeth Moldofa??
  • Ni ellir cadarnhau'n annibynnol...

Llygad Ebrill (sgwrs) 22:02, 25 Medi 2024 (UTC)Ateb

diolch eto. Wedi gwneud y cywiriadau/gwelliannau. Cymer gip i weld fod popeth yn gliriach. Diolch eto. Siôn
Gyda llaw, hoffwn ddanfon neges i HuwP am ei erthgl ddiddorol ar https://cy.wikipedia.org/wiki/Euskara_Batua_(Basgeg_Unedig) ac i PaulPesda sydd wedi bod yn sgwennu llwyth o erthyglau pwysig ar y ddrama yng Nghymru. Sut mae danfon y negeseuon hyn (fel rwyt ti'n neud i fi)? Stefanik (sgwrs) 15:06, 26 Medi 2024 (UTC)Ateb
Diolch! Ar dudalen sgwrs fel hon dw i'n teipio @ ac wedyn enw'r defnyddiwr dw i isio ei dagio - dim yn neges fel y cyfryw ond mae'r sicrhau dy fod yn cael hysbysiad pan wyt ti'n cysylltu â wicipedia. Ar gyfer neges mwy cyffredinol am sawl erthygl, mae modd ffeindio "tudalen ddefnyddiwr" y person dan sylw e.e. https://cy.wikipedia.org/wiki/Sgwrs_Defnyddiwr:Paulpesda Llygad Ebrill (sgwrs) 15:25, 26 Medi 2024 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Baner Gagauzia".