Sgwrs:Beryl Hall
Sylw diweddaraf: 1 mis yn ôl gan Paulpesda ym mhwnc Cymro / Cymraes neu o Gymru
Cymro / Cymraes neu o Gymru
golyguWedi sylwi ar gywiriad / newidiad @Craigysgafn yma - sef newid "o Gymraes" i "o Gymru". Dim ond holi o ran cysondeb, beth yw'r ffurf gywir / derbyniol o wneud hyn? Sylwaf bod sawl erthygl yn cynnwys "o Gymraes" ac eraill "o Gymru" a rhai wedi cywiro "o Gymru" i "o Gymraes"! Felly mae'n anodd gwybod pa un i'w ddefnyddio yn y dyfodol! Paulpesda (sgwrs) 11:19, 5 Hydref 2024 (UTC)
- O ran cywirdeb, "o Gymraes" yn rhagorol, a dyna fyddai fy newis i pe bai hyn yn fater o arddull yn unig. Ac yn y gorffennol byddwn i'n newid "Actores Gymreig" i "Actores o Gymraes" yn aml. Ond ar hyn o bryd rydyn ni'n ailwampio'r categorïau er mwyn defnyddio enwau gwledydd yn lle cenedligrwydd ar gyfer pobl, felly "Gwleidyddion o'r Unol Daleithiau" yn hytrach na "Gwleidyddion Americanaidd" ayyb. A'r un peth o ran y frawddeg gyntaf, ddiffiniol yn yr erthygl: mae'r rhain wedi achosi tipyn o drafferth yn y gorffennol. Felly "Gwleidydd o'r Unol Daleithiau" yn hytrach na "Gwleidydd Americanaidd" neu "Gwleidydd o Americanwr". Mae "Gwleidydd Americanaidd" yn hyll ond prin iawn yw'r rhai sy'n deall y rheswm am "Gwleidydd o Americanwr", felly dylai "Gwleidydd o'r Unol Daleithiau" fod yn dderbyniadol i bawb. Hefyd, mae'n well osgoi problem ffurfiau benywaidd - Cymraes/Saesnes/Ffrances/Almaenes/Eidales/Eifftes a phwy a wyr beth arall. Yn yr erthygl benodol hon, newidiais "o Gymraes" i "o Gymru" ar yr un pryd â diweddaru'r categorïau, a hynny nid fel mater o gywirdeb ond o gysondeb. Rwy'n gobeithio bod hyn yn helpu i egluro. --Craigysgafn (sgwrs) 12:42, 5 Hydref 2024 (UTC)
- Diolch @Craigysgafn Dalld rwan. Paulpesda (sgwrs) 16:45, 5 Hydref 2024 (UTC)