Croeso i'r Wicipedia.

Arddull golygu

  • Ym mrawddeg cyntaf pob erthygl, dyali testun yr erthygl ymddangos mewn ysgrifen trwm (bold).
  • Ceisia osgoio defnyddio geiriau fel 'unigryw' i ddisgrifio rhywbeth, yn enwedig deuawd, gan mai mater o farn yw hynny.
  • Pan yn creu dolen at erthygl arall yn Wicipedia, does ond angen gwneud unwaith (h.y., os ti'n cyferio at Theatr Gwynedd sawl tro mewn erthygl, dim ond y tro cyntaf mae angen creu dolen). Mae'r erthygl yn mynd i edrych yn fler fel arall, yn enwedig os yw'r ddolen yn goch am nad yw'r erthygl yn bodoli eto.

Erthyglau'n bodoli'n barod golygu

Mae dolen gyda ti at SAIN yn yr erthygl Hogiau Llandegai, ond mae erthygl amdanynt yn barod o'r enw Cwmni Recordiau Sain (ddim i'w gymysgu gyda'r arthygl am sain (sound)). I wneud dolen at y dudalen yma ymddangos fel hyn: Sain, dyma'r côd: [[Cwmni Recordiau Sain|Sain]]

Categoriau golygu

Er mwyn ei wneud yn haws i eraill ddod o hyd i erthyglau tebyg am yr un pwnc, mae Categori:Categorïau yn bodoli. I roi erthygl mewn categori, ti'n cynnwys y côd ar waelod cynnwys tudalen (tip: erdycha am erthyglau ar hap i weld y math o gategorïau sy'n bodoli, a gwasga 'golygu' i weld y côd tu cefn iddynt). Er engrhiafft:

  • Mae Everton F.C. yn perthyn i gategori Categori:Timau pêl-droed Lloegr, ac mae [[:Categori:Timau pêl-droed Lloegr]] ar waelod eu tudalen yn y côd.
  • Mewn erthygl am berson mae nhw'n cael eu catagreiddio yn ôl eu galwedigaeth a pha wlad maen't ohon, ac er mwyn iddynt gael eu rhestru yn nhrefn y wyddor eu cyfenwau, ti'n defnyddio'r arddull canlynol yn y côd: [[Categori:Pêl-droedwyr Seisnig|Rooney, Wayne]] a [[Categori:Genedigaethau 1985|Rooney, Wayne]]


*Paid poeni am y categori os ti ddim yn siwr pa rai mae dy erthyglau'n perthyn iddynt, bydd golygwyr eraill yn debygol o ddod draw a'u gosod yn y rhai priodol ar dy ôl neu creu rhai newydd os oes rhaid, ond rho dro arni os ti'n gallu.

Os oes cwestiwn gyda ti, hola yn Y Caffi, neu ar fy nhudalen Sgwrs.--Ben Bore 15:05, 2 Gorffennaf 2008 (UTC)Ateb