Actores a chantores o Gymru oedd Beryl Williams neu Beryl Hall (1927 - 23 Ebrill 2021) [1] a ddaeth i amlygrwydd yn y 1960au ar deledu a llwyfannau Cymru a Llundain. Bu'n wyneb cyfarwydd ar deledu a ffilm Cymraeg a Saesneg, ac ymddangosodd mewn sawl cynhyrchiad gan Gwmni Theatr Cymru. Bu ganddi hefyd gysylltiad cerddorol phwysig â Rwsia.[2] Roedd hi'n enwog am ganu efo'i chi 'Ben' ac ymddangosodd ar raglenni poblogaidd Saesneg gan gynnwys Harry Secombe a Max Bygraves.[3]

Beryl Hall
GanwydBeryl Williams
1927
Llanrug, Gwynedd
Bu farw23 Ebrill 2021
Caernarfon, Gwynedd

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Beryl ar fferm o'r enw Glyn Meibion ger Llanrug, Gwynedd.[2] Pan yn blentyn, bu'n cystadlu'n lleol mewn Eisteddfodau a dod yn llwyddiannus am ganu. Wedi ymadael â'r ysgol yng Nghaernarfon, bu'n gweithio yn siop W.H.Smith yn y dref, lle trefnwyd iddi gael gwersi canu gan y cerddor enwog Peleg Williams, drwy gynllun nawdd i staff y siop.[2]

Ym 1944, cwrddodd â "milwr ifanc" o Brixton, Llundain o'r enw George Hall, oedd ar wyliau yng Nghaernarfon, a phan yn ddwy-ar-bymtheg oed, bu iddi "redeg i ffwrdd i Lundain" i'w ddilyn, ac yn pen draw, ei briodi ym mis Rhagfyr 1944.[2] Tra'n Llundain, dechreuodd ymweld â'r Theatr, ac roedd teulu ei gŵr newydd yn gysylltiedig â byd jazz yn y 1940au, a buan iawn y daeth Beryl i ganu yng nghlybiau jazz y ddinas.[2]

Dychwelant i Gymru ym 1950, gan setlo yn Llanrug i gychwyn, cyn prynu ac agor Caffi Rondo yng Nghaernarfon, ar y cyd a'i chyn-athro canu, Peleg Williams a'i wraig. Ond bu mudo eto yn y man, a dychwelant i Lundain, gan brynu tŷ yn ardal Tulse Hill. Derbyniodd Beryl addysg gerddorol pellach gan Madame Rolls, a'i hyfforddi fel Mezzo-soprano, a dechreuodd ganu gyda pharti enwog Madam Byron Jones yn Nghlwb Cymry Llundain, Gray's Inn Road. Canodd Beryl yn Gymraeg o flaen Iarll Louis Mountbatten a'i wraig mewn cyngerdd yng ngwesty y Grosvenor House, a daeth yn gyfeillion gyda'r cyfansoddwr o Gymru Meirion Williams, a gytunodd i'w hyfforddi hefyd.[2]

Ymwelodd Beryl â Rwsia ym 1957, ar gyfer "Gŵyl Ryngwladol o'r Celfyddydau i Ieuenctid", ble y cafodd y cyfle i ganu'r alaw werin Gymraeg "Hen Ferchetan" mewn cyngerdd yno, ac ymweld â'r Cremlin. Sefydlodd y daith hon gysylltiad pwysig â'r wlad, a dychwelodd Beryl yno ym 1960 gyda'r cyfansoddwyr Daniel Jones a Meirion Williams, y dramodydd John Griffiths o Abertawe a'r darlithydd hanes Emrys Jenkins. Cafodd hefyd y cyfle i gwrdd â'r pypedwr enwog Sergey Obraztsov. Bu ar sawl ymweliad â'r wlad, weddill ei gyrfa.[2]

Cyfnod Llundain

golygu
 
Yr actorion Harry Secombe a Beryl Hall 1964

Dechreuodd ei gyrfa broffesiynol yn Llundain, wedi iddi weld hysbyseb ym mhapur newydd The Stage. Ei chynhyrchiad cyntaf oedd pantomeim o'r enw Sinbad the Sailor yn Wolverhampton ym 1961/62 a roddodd iddi gerdyn [hawl i actio] Equity. Dilynwyd hynny gan ran yn y llwyfaniad cyntaf Prydeinig o'r sioe gerdd The Music Man yn Theatr yr Adelphi, Llundain ym 1962, ac ar daith wedi hynny.

Ymunodd ag asiantaeth darparu ychwanegolion [extras] neu actorion cefndir ar gyfer ffilmiau a dramâu teledu yn Llundain, a chafodd rannau cefndir mewn ffilmiau fel The Horse without a Head (1963) a Tom Jones (1963) gydag Albert Finney.

 
Y gantores Beryl Hall a Ben y ci

Dychwelodd i'r theatr ym 1963, yn y llwyfaniad cyntaf yn y West End o'r sioe gerdd Pickwick gyda Harry Secombe a'i choreograffu gan Gillian Lynne, a fu'n gyfrifol yn ddiweddarch am sioeau enwog Andrew Lloyd Webber fel Cats, Phantom of the Opera ac Aspects of Love. Understudy i'r brif actores, a Chymraes arall, Jessie Evans oedd prif ddyletswydd Beryl, er iddi bortreadu cymeriadau eraill hefyd, yn ystod y sioe. Yn dilyn gwaeledd Jessie, cafodd y cyfle i bortreadu'r brif ran, am rai dyddiau.[2] Charlie Girl oedd y sioe gerdd nesaf iddi fod yn ran ohoni, a fu ar lwyfan Theatr Adelphi, Llundain ym 1965, a thra yn y sioe y mabwysiadodd Beryl a George y ci 'Ben', a ddaeth yn ran bwysig, maes o law, o'i bywyd ac ar lwyfannau Cymru! Tra yn y sioe yma yr enillodd Beryl ran yn y sioe gerdd Funny Girl oedd i fod i agor yn y West End ym 1966 gyda Barbra Streisand yn y brif ran. Ond yn anffodus, methwyd â'i rhyddhau o'i chytundeb gyda'r sioe Charlie Girl, ac felly ni chafodd y rhan.[2]

Yn y cyfnod yma hefyd y daeth i gysylltiad gyda Meredydd Evans a Jac Williams o BBC Cymru, a gynigiodd raglen iddi ar y sianel. Cafodd gyfweliad hefyd yn Llundain ar gyfer Cwmni Theatr Cymru oedd yn weithredol o 1965.[2]

Bywyd hwyrach

golygu

Dychwelodd Beryl Hall a'i gŵr George i Gymru ym 1968, gan setlo yn Nwygyfylchi. Derbyniodd ragor o waith teledu yn Saesneg fel y gyfres The Odd Man trilogy - Mr Rose (1968) o waith y dramodydd Edward Bond a'r gyfres A Family at War (1971). Symudodd y teulu i Landudno ym 1970, a bu Beryl yn diddanu cynulleidfaoedd o ymwelwyr yng Nghastell Gwrych. Ym 1971, cyfarfu ag Wilbert Lloyd Roberts o Gwmni Theatr Cymru a gynigiodd ran iddi [a Ben y ci] yn eu pantomeim cyntaf, Mawredd Mawr. Bu ar ymweliad â'r UDA yn dilyn y pantomeim, cyn cael gwahoddiad i ymddangos ar raglen anifeiliaid talentog, Max Bygraves, gyda Ben. Cafodd y cyfle i ail-bortreadu'r "frenhines" yn ail-bantomeim Cwmni Theatr Cymru Gweld Sêr ym 1972.

Teithiodd yn ôl i Rwsia, gan fynd â'r cyfarwyddwr Wilbert Lloyd Roberts efo hi, er mwyn trafod cyd-weithio a chyd-rannu talentau rhwng y ddwy wlad.[2]

Gyda dyfodiad S4C ym 1982, bu Beryl yn wyneb cyfarwydd ar sawl cyfres ddrama yn y blynyddoedd cynnar.

Roedd gan Beryl "ffydd" mawr "yn y goruwchnaturiol" a darddodd o gael ei gwellhau gan "Mrs Durrant" yn Llundain, pan yn ifanc. Trosglwyddodd ei ffydd i actorion a chantorion eraill, gan gynnwys Harry Secombe, a gyfeiriodd ati'n chwareus fel "the Welsh witch".[2]

Recordiau

golygu
 
Record Harry Secombe Fireside Favourites gydag unawd gan Beryl Hall 1964

Tra'n gweithio ar y sioe gerdd Pickwick ym 1964, fe ofynodd Harry Secombe i Beryl ganu'n unigol ar ei record Fireside Favourites, lle y canodd He's got the whole world in His hands. Roedd y record yn cynnwys holl gast y ddrama gerdd.[4]

Rhyddhawyd record ganddi ym 1977[5] yn ogystal â record gan 'Ben y ci' ym 1972.[3]

Cyhoeddwyd ei hunangofiant o dan y teitl Ymhith Y Sêr gan Wasg Tŷ Ar Y Graig.[2]

 
Clawr record Beryl Hall a'r ci Ben

Ben y Ci

golygu
 
Beryl Hall a'i chi Ben ym 1971

Mabwysiadodd Beryl Hall ei chi 'Ben' pan oedd y ci yn ifanc, "mi sylwodd ei fod yn ufudd a deallus iawn ac yn dysgu’n dda," yn ôl Dilwyn yn ei flog Y Blog Recordiau Cymraeg, "...a dyma fynd ati i’w hyfforddi i berfformio a “chanu”. Erbyn heddiw, diolch i YouTube ac ati, mae recordiadau o anifeiliaid yn eithaf cyffredin, ond ‘nôl yn 1972 mae’n siŵr bod y record yma yn dra “gwahanol”. Mi ymddangosodd ar nifer o raglenni a pherfformio i gannoedd o bobl yn ystod ei yrfa, gan gynnwys Max Bygraves a Harry Secombe. Cymysgedd o ddarnau byr o Ben yn canu i gerddoriaeth, a llais Beryl Hall yn sôn am Ben ydi’r record yma. Mi fyddai Beryl Hall yn llofnodi cefn y clawr", ychwanegodd.[3] Y gred lled-wybyddus oedd mai gwasgu ceilliau'r ci oedd yn gyfrifol am ei udo.[6]

Mae'r actor John Pierce Jones yn cofio perfformio yn y panto Gweld Sêr efo Beryl a Ben y ci ym 1972:

"Roedd y ci, Ben Hall, yn cydganu a'i feistres mewn un olygfa, ac am ryw reswm sydd y tu hwnt i mi, mynnodd Beryl fod Wynford [Ellis Owen], Dyfan [Roberts] a Dewi Pws i fod ar y llwyfan yn ystod ei chân efo'r ci. Camgymeriad dybryd. Roedd Wynff wedi ei wisgo fel tylwythen deg (Fairy Nyff) ac yn ystod y gân tynnai amryw o fân bethau o'i fag llaw, a gweu efo symudiadau doniol. Wrth gwrs, roedd hyn yn tynnu sylw'r gynulleidfa, a doedd Pws yntau ddim yn ddieuog o'r hyn y gellid ei alw'n 'ypstejio'? Roedd si ar led fod Beryl, ar ôl taenu ei chlogyn o gwmpas Ben fel nad oedd ond ei ben yn y golwg yn ystod y ddeuawd, yn gwasgu ei geilliau er mwyn iddo gyrraedd y nodau uchaf. Does gen i ddim prawf o gwbwl o hyn."[7]

Llwyfan

golygu

Teledu

golygu
  • The Odd Man Trilogy - Mr Rose (1968) Teledu Granada
  • Cadw Cwmni (1970) BBC Cymru
  • A Family At War (1971) Teledu Granada
  • Rhwng Gŵyl a Gwaith (1974) BBC Cymru
  • Childhood (1974)
  • The District Nurse (1987)
  • Minafon
  • Gwynfyd (1992)

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Click here to view the tribute page for BERYL HALL". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-19.
  2. 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 2.10 2.11 2.12 Williams, Mair Elynned (1981). Ymhith y Sêr (Atgofion Beryl Hall). Tŷ ar y Graig.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Ben, Y Ci Sy'n Canu". Y Blog Recordiau Cymraeg. 2019-09-07. Cyrchwyd 2024-09-08.
  4. "Harry Secombe Fireside Favourites UK Vinyl LP". RareVinyl.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-10-05.
  5. "Record Beryl Hall".
  6. Owen, Wynford Ellis (2004). Raslas Bach A Mawr!. Gomer.
  7. Jones, John Pierce (2014). Yr Hen Ddyddiadau. Gwasg Carreg Gwalch.
   Eginyn erthygl sydd uchod am actor o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.