Sgwrs:Castell Du Llandeilo Ferwallt

(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Castell Du Llandeilo)
Latest comment: 2 flynedd yn ôl by Craigysgafn in topic Manylion

Manylion golygu

Pwynt neu ddau cyn i ti gychwyn arni, Llywelyn.

  1. Ai 'Castell Du Llandeilo' neu 'Castell Du' (sy'n digwydd bod yn Llandeilo) yw'r enw? Hefyd, rhaid fod Waungron yn lle bychan ar y naw achos does dim sôn amdano yn yr atlas ffyrdd 1:50,000. Dim yma gennym ni fel cymuned chwaith. Dwi'n derbyn mai Llandeilo Ferwallt ydy'r Llandeilo dan sylw (ceir sawl lle o'r enw).
  2. Nodir dyddiadau yn y paragraff agoriadol, sef "Fe godwyd y domen rhwng 1000 ac 1153 allan o bridd a charreg." Dwi'n derbyn fod hyn yn cyfeirio at y castell hwn? Ni all fod yn dyddio o 1000 achos y Normaniaid daeth â'r cestyll mwnt hyn i Gymru a hynny dim cynharach na diwedd y 1060au. Os ydy'r dyddiad 1153 yn cyfeirio at y Castell Du, popeth yn iawn. Ond dydy rhoi'r dyddiad terfyn "1153" ddim yn gwneud synnwyr fel arall: rhy bendant (pam 1153?) a rhy gynnar (codwyd cestyll mwnt [a beili] ar ôl hynny).
  3. Cofia newid y categori 'Cestyll [sir]' - bu'n rhaid i mi wirio pob un o'r erthyglau mwnt a beili ddoe.

Dwi wedi cywiro ambell beth yn y testun. Cofia hefyd fod rhai erthyglau gennym yn barod rhag ofn i ni ddyblygu erthyglau. Fel arall, os wyt ti'n hapus, lawnsia hi! Anatiomaros 21:22, 23 Hydref 2010 (UTC)Ateb

Pwynt arall. Mae rhai o'r enwau lleoedd ar y rhestr sydd heb eu cywiro neu sydd wedi'i gywiro'n betrus gen i yn ddiarth. E.e. 'Gaer'; Llayfriog; Llaysul? Teipos ydy'r ddau ola, ond am be - Llandysul ydy'r ola efallai? Anatiomaros 21:50, 23 Hydref 2010 (UTC)Ateb

Diolch. Ar frys braidd heno.
1. "Castell Du Castle Mound" ydy disgrifiad Cadw.
2. Dyddiadau cyffredinol ydyn nhw. Efallai mai gwell fyddai rhywbeth fel "rhywdro yn y 11eg a'r 12ed ganrif". Dyma ddywed Eng Her'ge:
It is generally accepted that motte and bailey castles were introduced into England by the Normans and were widely built by them after the Conquest. A very small number, however, usually listed as Hereford, Richard's Castle, and Ewyas Harold, all in Hereford and Worcester, and Clavering in Essex, were possibly built before the Conquest by Norman immigrants who found favour at the English Court.
Two main periods of building can be identified, firstly immediately post-Conquest as the new land settlement took place and secondly during the Anarchy of the civil wars between Stephen and Matilda c.1138-1153. Motte and bailey castles of both periods are especially numerous in the Welsh Marches.
3. Diolch.
4. Mae Gaer yn bentref bychan (iawn): dilyn y ddolen OS. Llayfriog a Llaysul: dyna sydd gan Cadw! Cwbwl amhroffesiynol, fel arfer. Mi ymchwilia i fory. Llywelyn2000 16:16, 24 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Diolch, Llywelyn.
1. Os nad oes rhyw Gastell Du arall does dim rheswm dros beidio symud hyn i Castell Du felly (os oes, ei symud i 'Castell Du (Llandeilo Ferwallt)'?).
2. Am y dyddiadau cyffredinol, beth bynnag am Loegr does dim enghraifft gynharaf na diwedd y 1060au (os hynny) yng Nghymru a cheir ambell enghraifft mor ddiweddar â dechrau'r 14eg ganrif. Byddai rhywbeth fel "Fe godwyd y rhan fwyaf o'r tomenni hyn yng Nghymru rhywdro rhwng degawdau olaf yr 11eg ganrif ac ail hanner y 12fed ganrif" yn iawn, dwi'n meddwl, gan fod rhaid cyffredinoli. Nid cestyll Normanaidd oedd pob un o'r cestyll chwaith, achos mabwysiadwyd y dechnoleg newydd gan y Cymry. H.y. dydy eu hanes yn Lloegr ddim yr un fath â'u hanes yn y wlad hon.
3. Diolch i tithau hefyd!
4. Bydd rhaid cael rhywbeth am "bentref-os-pentref-hefyd" Gaer rhywbryd hefyd. Am yr enwau eraill, beth bynnag ydyn nhw, mae hynny'n nodweddiadol o Gadw a'n cyrff cyhoeddus eraill, ysywaeth... Anatiomaros 21:00, 24 Hydref 2010 (UTC)Ateb
ON Wele Gaer, Powys! Anatiomaros 21:23, 24 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Addaswyd. Felly i ffwrdd a ni! Llywelyn2000 03:37, 25 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Dwi yma'n hwyr a does dim gobaith o fynd dros yr erthyglau newydd heno/bore 'ma. Sôn am bentwr! Mi fuost ti'n brysur ar y naw, Llywelyn. Beth am roi diwrnod neu ddau i mi gael golwg arnynt ac ychwanegu ambell bwt o hanes efallai cyn bwrw ati gyda'r llwyth nesa? Mi gymrith noswaith i gael cipolwg cyflym heb sôn am unrhyw beth arall. Cyfraniad ardderchog! Anatiomaros 00:09, 26 Hydref 2010 (UTC)Ateb

Mae'r byd wedi troi nifer o weithiau ers y drafodaeth uchod. Roedd y cyfesurynnau yn Wicidata yn amlwg yn anghywir, felly rwyf wedi eu diweddaru. Os mai Cadw GM200 yw hwn mewn gwirionedd, yna dylai'r cyfesurynnau fod yn iawn bellach. --Craigysgafn (sgwrs) 23:18, 22 Tachwedd 2021 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Castell Du Llandeilo Ferwallt".