Sgwrs:Ciliau Aeron

Sylw diweddaraf: 10 o flynyddoedd yn ôl gan Llywelyn2000

Yn anffodus mae'r ystadegau ar gyfer Ciliau Aeron yn anghywir. Yn 2011 roedd ardal Cyngor Cymuned Ciliau Aeron yn cynnwys 1,926 o bobl dros 3 oed, gydag 1,040 o'r rhain yn medru'r Gymraeg. Os yw'r tabl yn cyfeirio at bentref Ciliau Aeron ei hun, bydd angen newid y disgrifiad ym mrig y tabl. Ffynhonnell http://www.neighbourhood.statistics.gov.uk/dissemination/

Dyma ddolen uniongyrchol at y ffigyrau, ac mae Owen yn iawn. Cuddio'r tabl am y tro?--Rhyswynne (sgwrs) 14:00, 19 Chwefror 2014 (UTC)Ateb
Diolch am eich cyfraniad. Mae'r graff yn dylunio yr ardal a elwir yn Gymuned Ciliau Aeron, FEL MAE'N DWEUD AR LINELL GYNTA'R GRAFF: "Poblogaeth cymuned Ciliau Aeron = ". Mae ystadegau'r gymuned i'w gweld drwy ddilyn y ddolen uniongyrch hon. Mae'r ddau ohonoch yn dyfynnu ystadegau'r ward, sydd a ffiniau gwahanol - ac yn cwmpasu TREF Aberaeron. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:51, 19 Chwefror 2014 (UTC)Ateb
Diolch am yr esboniad. Mae Llywelyn yn iawn ac rwy'n anghywir - mae ffiniau'r ward etholiadol yn wahanol i ffiniau'r cyngor cymuned. Mae'r cc yn gyfrifol am Giliau Aeron a Chilcennin, tra bod y ward etholiadol yn cynnwys plwyf Henfynyw hefyd. Fi wnaeth gamgymeriad gan fod y ward etholiadol hefyd yn cael ei galw'n Giliau Aeron! [1] felly mae pentre Ciliau Aeron, Plwyf (Cymuned) Ciliau Aeron, a ward etholiadol Ciliau Aeron - i gyd a ffiniau gwahanol! Defnyddiwr:Owen - Heb ei arwyddo
Diolch Owen. Gyda llaw welaist ti'r campwaith hwn gan Hywel? Piti fod côd wici mor wahanol i xyz-html! Daw dydd... Cofion cynnes, Llywelyn2000 (sgwrs) 20:38, 19 Chwefror 2014 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Ciliau Aeron".