Sgwrs:Coed Copi'r Graig

Latest comment: 9 o flynyddoedd yn ôl by Rhyswynne in topic Enw rhyfedd iawn

Enw rhyfedd iawn golygu

Does posib fod "copi" yn iawn? Ai "copa" (h.y. Coed Copa'r Graig) ddylai fod? Anatiomaros (sgwrs) 22:17, 5 Awst 2014 (UTC)Ateb

Hyd yn oed os oes nam yn y gair, nid ein lle ni yw ei gywiro; dyma'r enw a ddefnyddir ar gofrestr Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn y cyswllt hwn cofia fod y gair 'copi' hefyd yn golygu 'coedwif fechan' (Saesneg: coppice); gweler yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:57, 14 Awst 2014 (UTC)Ateb
Rwyt ti'n iawn hefyd. Nodi hyn ac enghreifftiau eraill at frys wrth fynd heibio tra'n gwneud y categoriau oeddwn i, ond yn ôl GPC mae 'copi' o'r gair coppice fel ti'n deud. Gair y De, dwi'n meddwl, ac yn bur hen ond anghyfarwydd. Wna i nodi'r ystyr anghyffredin. Diolch! Anatiomaros (sgwrs) 22:46, 14 Awst 2014 (UTC)Ateb
ON Rwyt ti'n iawn nid ein lle ni ydy cywiro, ond mae'r ychydig (iawn) a gywirwyd gennyf hyd yn hyn yn ddibetrus yn amlwg yn "deipos" (gwirwyd o'r map hefyd gan amlaf). Anatiomaros (sgwrs) 22:46, 14 Awst 2014 (UTC)Ateb
OON Nodwyd yr ystyr gyda chyfeiriad. Anatiomaros (sgwrs) 22:59, 14 Awst 2014 (UTC)Ateb
Bach yn hwyr i'r parti, a falle o darddiad gwahanol, ond mae Fferm Coppi ar gyrion Dinbych i gyferiad Henllan, ag yn ôl Google mae Ystad Ddiwydiannol Coppi yn Rhosllannerchrugog 'fyd.--Rhyswynne (sgwrs) 07:56, 15 Awst 2014 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Coed Copi'r Graig".