Sgwrs:Coed Ffos Noddum
Sylw diweddaraf: 9 o flynyddoedd yn ôl gan Anatiomaros ym mhwnc Enw Cymraeg?
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Enw Cymraeg?
golyguOes enw Cymraeg? Ceir sawl "Fairy Glen" yng Nghymru a gwledydd Prydain - enw sy'n deillio o dwristiaeth y 19eg ganrif. Anatiomaros (sgwrs) 01:39, 8 Ionawr 2014 (UTC)
- Ffos Noddum. hy Ffos neu afon ag iddo waelod. Gweler Bwletin Llên Natur, Rhif 82. Symudwyd y dudalen. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:09, 4 Ionawr 2015 (UTC)
- Diolch! Ai enw lleol penodol yw hyn neu enw cyffredinol sy'n cyfateb i "Fairy Glen"? Doeddwn i erioed wedi dod ar ei draws o'r blaen. Dim sôn amdano yn GPC dan 'Ffos'. Mae gan lawer o'r "Fairy Glens" hyn yng Nghymru enw lle Cymraeg, e.e. 'Nant Ddaear y Llwynog' yn achos y "Fairy Glen" ger fy mhentref i (ysywaeth, "y Fairy Glen" ydyw i'r mwyafrif o Gymry Cymraeg lleol erbyn hyn...). Dwi'n gofyn hyn rhag ofn i ni newid "Fairy Glens" eraill i 'Ffos Noddum' pan fo enwau Cymraeg am y lleoedd yn bod. Anatiomaros (sgwrs) 00:14, 5 Ionawr 2015 (UTC)