Sgwrs:Crwth

Latest comment: 8 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic Crwth Boston

Y defnydd o'r fawd golygu

Bois bach! Ydw i'n camddeall, neu beth? Mae'r gwpled olaf yn y cywydd yn dweud:

Tant i bob bys ysbys oedd
A dau dant i'r fawd ydoedd.

I mi, mae hyn yn golygu mai'r bawd fyddai'n cael ei osod ar y ddau dant isaf (o ran traw; uchaf o ran lleoliad), ac nid y bysedd fel sy'n arferol heddiw! Neu ai cael ei blycio gan y fawd (llaw dde arferol) oedd o? Neu ydw i'n cangymryd?! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:07, 18 Mai 2013 (UTC)Ateb

I ateb fy nghwestiwn fy hun! Dyma ddywed gwefan y Llyfyfrgell Genedlaethol: Yn wreiddiol roedd y crwth yn offeryn tebyg i'r delyn fach a oedd yn cael ei chwarae drwy dynnu ar y tannau gyda'r bysedd. Sy'n golygu mai'r bawd dde (i berson llaw dde) fyddai'n plycio'r tannau. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:05, 19 Mai 2013 (UTC)Ateb

Crwth Boston golygu

Dw i wedi cael ebost negyddol gan The Museum of Fine Arts, Boston (ble cedwir y 4edd crwth) yn dweud:

Thank you for your response. Though we would be glad to license the image for your article, we are not willing to authorize the image to be used under a creative commons license. Please let me know if you have any questions.

Thank you, Sue Bell

--

MFA Images
Museum of Fine Arts, Boston
mfaimages@mfa.org | 617-369-4338
http://www.mfa.org/collections/mfa-images

Unrhyw syniadau pellach? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:07, 18 Mai 2013 (UTC)Ateb

A yw'r crwth ar ddangos ym Moston? A ellid gofyn i rywun gymyd ffoto ohono a'i gyfrannu, fel ddigwyddodd fan hyn: https://en.wikipedia.org/wiki/Museum_of_Fine_Arts,_Boston#/media/File:King_Menkaura_%28Mycerinus%29_and_queen.jpg

--Illtud (sgwrs) 22:57, 31 Gorffennaf 2015 (UTC)Ateb

Nag oes, ysywaeth, oherwydd eu rheolau nhw. Mae pob GLAM yn wahanol. Fel y gweli, mae Boston yn eitha caeth: 'permitted for personal, non-distributional, non-commercial use.. Daw dydd y byddan nhw mor agored a rhydd, a LlGC! Rhyw ddydd! Llywelyn2000 (sgwrs) 23:27, 31 Gorffennaf 2015 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Crwth".