Sgwrs:Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg
Sylw diweddaraf: 16 o flynyddoedd yn ôl gan Rhion ym mhwnc Enw'r erthygl
Enw'r erthygl
golyguGwlad y Basg yw'r enw arferol yn Gymraeg. Mae'n anhygoel nad yw'r erthygl yn rhoi'r term Cymraeg amdani o gwbl (heblaw am ei gynnig fel cyfieithiad o'r Sbaeneg). Wnawn ni symud yr erthygl i Gwlad y Basg? Daffy 17:15, 20 Medi 2006 (UTC)
- Cytuno. Mae yna hefyd erthyglau am ardaloedd yn yr Ariannin sydd gydag enwau Cymraeg, ond sydd o dan yr enwau Sbaeneg (Puerto Madryn=Porth Madryn, Rawson=Trerawson). —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 19:10, 20 Medi 2006 (UTC)
- Byddwn i'n awgrymu ail-enwi'e erthygl yn Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg a bod Euskadi wedyn yn ail-gyfeirio yma. Yn yr erthyglau eraill, dw i'n gweld y cyfeiriad at '...Euskadi (Gwlad y Basg)...' braidd yn gymysglyd.--Ben Bore 11:46, 26 Tachwedd 2008 (UTC)
- Rwyf wedi ei hail-enwi. Rhion 14:00, 26 Tachwedd 2008 (UTC)
Euskadi > Euskal Herria
golyguDw i ddim yn meddwl bod yr isod yn gywir:
- Mae'r enwau Euskadi mewn Basgeg neu País Vasco (Gwlad y Basg) yn Sbaeneg yn medru bod a nifer o ystyron gwahanol. Gall olygu y gymuned ymreolaethol o Sbaen a elwir yn Euskal Autonomi Erkidegoa, ond gellir hefyd ei ddefnyddio am yr holl diriogaethau y mae'r Basgiaid yn byw ynddynt, yn cynnwys Navarra a rhan o Ffrainc.
Euskal Herria yw'r enw a roddid am y wlad gyfan yn cynnwys y tri rhanbarth yn Ffrainc, a'r 4 yn Sbaen. Os nad oes gwrthwynebiad, byddaf yn ei addasu yn y dyddiau nesaf.--Ben Bore 20:52, 17 Medi 2008 (UTC)