Agor y brif ddewislen

Porth Madryn

Dinas arfordirol yn nhalaith Chubut, ym Mhatagonia'r Ariannin.
(Ailgyfeiriad oddi wrth Puerto Madryn)

Mae Porth Madryn (Sbaeneg: Puerto Madryn) yn un o drefi mwyaf talaith Chubut, Ariannin, gyda phoblogaeth o 45,047 yn 1991 ond bellach wedi tyfu i 57,571 yn ôl cyfrifiad 2001. Mae wedi'i gefeillio gyda Nefyn.

Porth Madryn
Vista de Puerto Madryn, Argentina.jpg
Coat of arms of Puerto Madryn.svg
Math Dinas, bwrdeistref Edit this on Wikidata
Poblogaeth 111,447, 81,995 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 28 Gorffennaf 1865 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC−03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Nefyn, Paola, Pisco, Puerto Montt Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Viedma Edit this on Wikidata
Gwlad Yr Ariannin Edit this on Wikidata
Arwynebedd 330 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 17 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 42.772967°S 65.03661°W Edit this on Wikidata
Cod post U9120 Edit this on Wikidata
Traeth Porth Madryn
Edrych ar y morfilod yn y Golfo Nuevo

DaearyddiaethGolygu

Saif Puerto Madryn ar lan y môr ar y Golfo Nuevo, y bae rhwng Gorynys Valdés a Punta Ninfas. I dwristiaid, mae'n bwysig fel y dref fwyaf cyfleus ar gyfer ymweliad a Gorynys Valdés, sy'n nodedig am ei adar a bywyd gwyllt arall. Mae'r hinsawdd yn sych ac yn oer, gyda rhwng 150 a 200 mm o wlybaniaeth y flwyddyn.

HanesGolygu

Gwelwyd yr Ewropeaid cyntaf yn y cylch yn 1779 pan laniodd Juan de la Piedra. Sefydlwyd y dref ar y 28 Gorffennaf 1865 pan gyrhaeddodd 150 o Gymry yn y llong Mimosa. Hwy a roes yr enw "Porth Madryn" i anrhydeddu Love Jones-Parry o Fadryn a oedd wedi bod o gymorth mawr iddynt. Tyfodd y dref o ganlyniad i fewnfudwyr Cymreig, Sbaeneg ac Eidaleg adeiladu rheilffordd i'w chysylltu â Threlew.

EconomiGolygu

Mae'r dref yn dibynnu yn bennnaf ar dri diwydiant, cynhyrchu alwminiwm, pysgota a thwristiaeth. Cyflogir tua 1,700 o weithwyr yn y gwaith ALUAR Aluminio Argentino. Yn yr haf mae llawer o dwristiaid yn dod i fwynhau'r traethau, tra yn y gaeaf trefnir teithiau o'r dref i weld morfilod, pengwiniaid a bywyd gwyllt arall.

 
Baner Porth Madryn

GefeilldrefiGolygu